Neidio i'r prif gynnwy

Llesiant a hwyliau

Gall ansicrwydd ynghylch eich iechyd, eich gofal a'ch triniaeth beri straen. Ni waeth beth yw eich sefyllfa, gall fod yn ddefnyddiol cael trefn ddyddiol lle mae yna gydbwysedd rhwng gweithgareddau sy'n: 

  • rhoi ymdeimlad o gyflawniad i chi 
  • eich helpu i deimlo'n agos at eraill ac mewn cysylltiad â nhw
  • eich galluogi i'w cyflawni er pleser yn unig 

 

Awgrymiadau defnyddiol:

Dyma enghreifftiau o weithgareddau a allai helpu eich llesiant: 

  • Gwnewch weithgareddau yr ydych yn eu mwynhau – darllenwch lyfr neu gylchgrawn; gwyliwch y teledu neu ffilm; byddwch yn greadigol trwy baentio, gwau neu dynnu lluniau 
  • Neilltuwch amser i ofalu amdanoch eich hun – treuliwch amser yn y bàth; paentiwch eich ewinedd; gwrandewch ar gerddoriaeth; paratowch bryd bwyd ffres 
  • Treuliwch amser yn yr awyr agored neu'n eistedd wrth ffenestr agored – plannwch rywbeth; casglwch flodau; gwrandewch ar natur 
  • Byddwch yn egnïol – ewch am dro hamddenol neu gwnewch ychydig o ymarferion ymestyn ysgafn 
  • Cysylltwch ag eraill – siaradwch ag aelodau'r teulu, ffrindiau a chymdogion; ysgrifennwch lythyrau neu gardiau post 
  • Gofalwch am eich amgylchedd – glanhewch neu tacluswch ardal yn eich cartref; golchwch ddillad; atgyweiriwch rywbeth 
  • Rhowch gynnig ar ymarferion ymlacio neu ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar  
  • Gofalwch fod gennych rywfaint o strwythur i'ch diwrnod – mynd i'r gwely a chodi ar yr un adeg bob dydd 
  • Ar ddiwedd y dydd, byddwch yn garedig wrthych eich hun a myfyriwch ar dair elfen gadarnhaol, ni waeth pa mor fach ydynt. 
     

Adnoddau defnyddiol:

Dyma leoedd eraill lle gallwch ddod o hyd i ragor o gyngor a chymorth ar gyfer eich llesiant: 

Hunangymorth IAWN Hywel Dda (agor mewn dolen newydd)  

Fideos a Chanllawiau Hunangymorth Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Llesiant – Bywyd Actif (agor mewn dolen newydd)  

Cwrs therapi iechyd meddwl GIG Cymru ar-lein - gyda SilverCloud (agor mewn dolen newydd)

Mae yna hefyd amrywiaeth o apiau ffonau symudol ar gael i'w lawrlwytho Google Play (agor mewn dolen newydd) neu'r Apple App Store (agor mewn dolen newydd) – ewch i'n tudalen Apiau ac Adnoddau Ffordd o Fyw yma (agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: