Gall ffliw fod yn ddifrifol iawn ac mae cael eich brechlyn ffliw bob blwyddyn yn un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn rhag mynd yn sâl iawn.
Mae'n cael ei achosi gan firws sy'n cael ei ledaenu gan beswch a thisian. Gall symptomau ffliw fod yn ysgafn ond gall hefyd arwain at afiechydon mwy difrifol fel broncitis a niwmonia, a all fod angen triniaeth yn yr ysbyty.
Os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi, hyd yn oed os ydych yn teimlo’n iach, rydych yn fwy tebygol o gael cymhlethdodau o’r ffliw os byddwch yn ei ddal, ac fe’ch cynghorir i gael brechiad y ffliw os:
Mae'r grwpiau canlynol hefyd yn cael eu cynghori i gael brechiad y ffliw i'w hamddiffyn nhw a'r bobl o'u cwmpas:
Os ydych chi’n gymwys, galwch heibio un o’r canolfannau canlynol, neu os oes yn well gennych wneud apwyntiad, cysylltwch â’r bwrdd iechyd ar y manylion uchod.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am frechlyn yr ysgyfaint drwy fynd i Iechyd Cyhoeddus Cymru (agor mewn dolen newydd).