Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth asesu'r cof

Mae'r gwasanaeth asesu'r cof yn llwybr diagnostig gofal sylfaenol sy'n cael ei gynnal gan y gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion hŷn (agor mewn dolen newydd), ac sydd ar gyfer pobl o unrhyw oedran yr amheuir bod ganddynt ddementia.

Mae’r gwasanaeth yn cynnig:

  • diagnosis amserol a sensitif ar gyfer pobl â dementia
  • ynghyd â gwybodaeth a addysg wedi’i theilwra 
  • triniaeth seicolegol a meddygol yn dibynnu ar yr angen
  • cynllun gofal a chymorth ôl-ddiagnostig, cyn i'r unigolyn ddychwelyd i ofal ei feddyg teulu

Arweinir y timau gan uwch-ymarferwyr nyrsio, un ym mhob sir, ac maent yn cynnwys seiciatrydd ymgynghorol arweiniol meddygol penodedig, niwroseicolegydd ymgynghorol, ynghyd â nyrsys asesu'r cof arbenigol a therapyddion galwedigaethol.

Atgyfeiriadau

Er mwyn diystyru achosion cildroadwy cyffredin nam ar y cof, gofynnwn i feddyg teulu gwblhau sgrin iechyd corfforol. Mae hyn er mwyn diystyru unrhyw achosion posibl eraill dros newidiadau yn eich cof cyn i chi gael eich cyfeirio at y gwasanaeth.

Mae gennym ni gytundeb lefel gwasanaeth ychwanegol gyda Chymdeithas Alzheimer sy'n neilltuo cefnogaeth ychwanegol yn ystod y broses asesu a diagnostig. Mae eu cynghorwyr dementia yn y gymuned yn darparu gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth ymarferol. Maent yn helpu pobl i ddeall eu symptomau, ymdopi â byw o ddydd i ddydd, llywio systemau iechyd a gofal cymdeithasol a pharatoi ar gyfer y dyfodol.

Asesiadau

Fel arfer, cynhelir yr asesiadau mewn amgylchedd clinig, ac maent yn cymryd tua dwyawr, a bydd y diagnosis fel arfer wedi’i gwblhau cyn pen 12 wythnos i’r atgyfeiriad.

Gogledd Sir Gaerfyrddin

Arweinydd y gwasanaeth – yr uwch-ymarferydd nyrsio Aimee Williams

Rhif Ffôn: 01267 674020

Cyfeiriad: Y Delyn, Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, Gwasanaeth Asesu'r Cof De Caerfyrddin

Llanelli

Arweinydd y gwasanaeth – yr uwch-ymarferydd nyrsio Aimee Williams

Rhif Ffôn: 01554 779311

Cyfeiriad: Caebryn, Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli

Sir Benfro

Arweinydd y gwasanaeth – yr uwch-ymarferydd nyrsio Kate Bevan-Smith

Rhif Ffôn: 01437 772844

Cyfeiriad: St Brynachs, Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd

Ceredigion

Arweinydd y gwasanaeth – yr uwch-ymarferydd nyrsio Kate Bevan-Smith

Rhif Ffôn: 01970 635839

Cyfeiriad: Enlli, Ysbyty Bronglais, Aberystwyth

(Cynhelir clinigau yn ne'r sir hefyd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: