Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau cyffredin

Beth yw ymgynghoriad fideo?
Mae ymgynghoriad fideo yn apwyntiad sy'n digwydd rhwng y claf a chlinigydd dros fideo, yn hytrach nag wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Byddwch yn cael gofal o'r un ansawdd ag y byddech mewn apwyntiad wyneb yn wyneb.

Pam y mae'r GIG yn defnyddio ymgynghoriadau fideo?
Mae llawer o fanteision i ddefnyddio ymgyngoriadau fideo, gan gynnwys:

  • Arbed amser ac arian i gleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr trwy ddileu'r angen i deithio i apwyntiad
  • Rhoi'r hyblygrwydd i gleifion gael eu hymgyngoriadau mewn man sy'n gyfleus iddynt.
  • Lleihau tarfu ar ddiwrnod y claf, trwy leihau 'r amser y mae arno ei angen i fynychu apwyntiad
  • Lleihau allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â theithio
  • Lleihau'r risg o ledaenu clefydau heintus megis COVID-19, trwy osgoi cyswllt wyneb yn wyneb.

Pam y mae'r GIG yn defnyddio ymgyngoriadau fideo fel rhan o'i ymateb i COVID-19?
Mae defnyddio ymgyngoriadau fideo yn cefnogi ymateb  y GIG i COVID-19 trwy:

  • Atal trosglwyddo'r haint, trwy leihau'r angen am bresenoldeb corfforol ar safleoedd y GIG
  • Galluogi clinigwyr i weld cleifion sydd ag anawsterau teithio. Mae hyn yn cynnwys cleifion sy'n rhan o grwpiau sydd mewn perygl, neu y mae angen iddynt hunanynysu.
  • Galluogi clinigwyr i weithio o gartref. Mae hyn yn cynnwys staff mewn grwpiau sydd mewn perygl, y rhai sy'n hunanynysu neu'r rhai sy'n profi anawsterau teithio.

Rwyf wedi cael cynnig apwyntiad wyneb yn wyneb, ond nid wyf yn awyddus i ddod i'r ysbyty oherwydd COVID-19. Beth y dylwn ei wneud?
Bydd rhai apwyntiadau wyneb yn wyneb yn angenrheidiol yn ystod y cyfnod hwn. Clinigwr arbenigol fydd yn penderfynu a fydd apwyntiad yn digwydd wyneb yn wyneb, ar fideo neu dros y ffôn, a hynny'n seiliedig ar eich anghenion gofal unigol.

Os ydych yn poeni am fynd i apwyntiad wyneb yn wyneb, cysylltwch â ni. Efallai bydd eich clinigwr yn gallu cynnig apwyntiad i chi naill ai dros y ffôn neu drwy fideo.

Os ydych yn credu bod gennych COVID-19, dylech ganslo eich apwyntiad gan sicrhau eich bod yn dilyn y cyngor swyddogol sydd ar wefan y GIG.

Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni os oes angen i chi ganslo'ch apwyntiad, fel y gallwn ddefnyddio'r amser i ofalu am gleifion eraill.

A yw ymgyngoriadau fideo yn iawn i mi?
Mae ymgyngoriadau fideo yn addas ar gyfer llawer o gleifion nad oes arnynt angen archwiliad corfforol ac sy'n gallu cyfathrebu trwy fideo. Bydd eich clinigwr yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad fideo, os yw'n credu bod hynny'n addas ar eich cyfer. Mae eich cydsyniad yn hanfodol. Os ydych yn teimlo y byddech yn hoffi dod â'r ymgynghoriad fideo i ben ar unrhyw adeg, gallwch roi gwybod i'ch clinigwr am hynny a threfnu apwyntiad arall.

Nid oes rhaid i chi dderbyn y cynnig o ymgynghoriad fideo – cynigir apwyntiad ffôn i chi os yw hyn yn fwy ffafriol.  Fodd bynnag, ar hyn o bryd byddwn yn cyfyngu ar apwyntiadau ar gyfer ymgyngoriadau wyneb yn wyneb i achosion brys yn unig er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo'r haint COVID-19.

A all aelod o'r teulu, gofalwr neu ffrind ymuno â mi ar gyfer fy ymgynghoriad fideo?
Gall. Gall hyn ddigwydd mewn dwy ffordd:

  1. Os ydyw yn yr un lleoliad â chi, yna gyda chytundeb y clinigwyr gall ymuno â chi yn ystod eich ymgynghoriad fideo. Rhowch wybod i'ch clinigwr bod rhywun gyda chi ar ddechrau eich apwyntiad.
  2. Os hoffech wahodd aelod o'ch teulu, gofalwr, ffrind neu gyfieithydd, rhowch wybod i ni ymlaen llaw, os yw'n bosibl, neu gofynnwch i'ch clinigwr ei wahodd i ymuno â'r ymgynghoriad ar ddechrau eich apwyntiad. Rhowch gyfeiriad e-bost neu rif ffôn symudol yr unigolyn i'r clinigwr yn ystod eich apwyntiad, a bydd y clinigwr yn anfon neges wib ato gyda dolen i'w alluogi i ymuno â'ch apwyntiad.

Pa offer y bydd arnaf ei angen ar gyfer ymgynghoriad fideo?
Gallwch gyrchu eich ymgynghoriad fideo ar ffôn clyfar, llechen neu liniadur/gyfrifiadur. Gallwch ddefnyddio microffon a chamera mewnol eich dyfais, ond mae rhai pobl yn profi gwell ansawdd ar alwadau wrth ddefnyddio set clustffonau a gwe-gamera. Bydd arnoch angen cyswllt â'r rhyngrwyd trwy Wi-Fi, 3G, 4G neu gysylltiad ether-rwyd. Mae'n syniad da profi'ch offer cyn eich apwyntiad.

Rydym yn argymell eich bod yn cynnal ‘galwad prawf’ wrth baratoi ar gyfer eich apwyntiad. Gwnewch hynny trwy ddefnyddio’r ddolen we a rennir yn eich llythyr apwyntiad. Gellir dod o hyd i’r ddolen hefyd ar ein tudalen gwybodaeth i gleifion am ymgyngoriadau fideo.

A fydd angen i mi lawrlwytho unrhyw beth?
Dylai darparwyr gynnwys gwybodaeth ynghylch a oes angen gosod cymwysiadau, neu ba borwyr y gellir eu defnyddio wrth ddefnyddio llwyfan ar y we. Gellir cyrchu'r llwyfan trwy borwr gwe ac ni fydd angen lawrlwytho unrhyw gymwysiadau. Gallwch ddefnyddio naill ai Google Chrome (ar gyfer Cyfrifiadur/Mac/dyfeisiau Android) neu Safari (ar gyfer dyfeisiau iOS a Mac) neu Microsoft Edge.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn hwyr ar gyfer fy ymgynghoriad fideo?
Efallai na fydd eich clinigwr yn gallu darparu ar gyfer hyn, felly byddem yn eich cynghori i gysylltu â'n Canolfan Gyswllt i aildrefnu eich apwyntiad os bydd hyn yn digwydd.

A yw'r gwasanaeth hwn yn gyfrinachol ac yn ddiogel i'w ddefnyddio?
Ydy. Mae Attend Anywhere yn darparu gwasanaeth ymgynghoriad fideo diogel a gymeradwywyd yn gyfrinachol gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru. Nid yw galwadau fideo yn cael eu recordio ac nid yw'r system yn storio unrhyw wybodaeth am gleifion. Nid oes angen i chi lawrlwytho ap na chreu cyfrif i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.

    Dilynwch ni ar:
    Rhannwch: