Neidio i'r prif gynnwy
Rhodri Evans

Aelod Annibynnol - Llywodraeth Leol

Hywel Dda University Health Board

Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB

01267235151

Rhodri.Evans7@wales.nhs.uk

Amdanaf i

Aelod Annibynnol - Llywodraeth Leol

Cefais fy ngeni a'm magu ar fferm deuluol ger Tregaron, lle rydw i nawr yn byw ac yn ffermio gyda fy ngwraig Caryl a'n tri mab.

Ar ôl mynychu Ysgol Henry Richard, Tregaron, graddiais gyda gradd anrhydedd BSc mewn Amaethyddiaeth o Brifysgol Harper Adams a Phrifysgol Aberystwyth.

Fel ffermwr, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn llywio llwyddiant y diwydiant ac rwyf wedi dal rolau gyda’r Clwb Ffermwyr Ifanc a Hybu Cig Cymru. Yn gyn Gadeirydd CFfI Ceredigion, roedd yn anrhydedd cael fy ethol yn Gadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn 2006-2007. Yn ystod fy mlwyddyn yn y swydd, rhedais Farathon Llundain a chodwyd dros £35,000 i Ymchwil Canser Cymru. Rwy’n parhau i gefnogi’r CFfI ac ar hyn o bryd yn aelod cyfetholedig o Gyngor CFfI Cymru ac ar Fwrdd Rheoli CFfI Ceredigion. Cefais fy mhenodi hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol Hybu Cig Cymru yn 2009, rôl a ddaliais am bedair blynedd.

Yn 2012, cefais fy ethol yn Gynghorydd Sir Ceredigion ar gyfer Ward Llangeitho ac ar hyn o bryd rwy’n Gadeirydd Pwyllgor Craffu Trosolwg Adnoddau Corfforaethol y Cyngor. Yn ystod fy amser gyda Chyngor Ceredigion, rwyf wedi cael y fraint o ddal nifer o bortffolios gan gynnwys bod yn aelod cabinet â chyfrifoldeb dros yr Economi ac Adfywio ers dros 10 mlynedd ac fel aelod y Cyngor, Hyrwyddwr dros Fioamrywiaeth ac Iechyd y Cyhoedd.

Yn ogystal â fy rôl yng Nghyngor Sir Ceredigion, rwyf hefyd yn cynrychioli fy nghymuned leol fel aelod etholedig o Gyngor Cymuned Llanddewi Brefi ac yn mynychu cyfarfodydd Cyngor Cymuned Llangeitho fel sylwedydd. Rwyf hefyd yn aelod o bwyllgorau Neuadd a Sioe Llangeitho a Llanddewi Brefi.

Ar hyn o bryd yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Henry Richard, Tregaron, rwyf hefyd yn un o lywodraethwyr Ysgol Gynradd Rhos Helyg, Llangeitho a Bronant.

Ar lefel genedlaethol, rwy’n cadeirio Panel Apeliadau Annibynnol Llywodraeth Cymru ac yn eistedd ar Bwyllgor Cynghori’r Arglwydd Ganghellor. Yn 2008 roeddwn yn aelod o banel Confensiwn Cymru Gyfan, gan helpu i hwyluso’r drafodaeth ar ddyfodol llywodraeth yng Nghymru.

Rwy’n falch iawn o gael ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel cynrychiolydd yr awdurdod lleol, ac edrychaf ymlaen at gefnogi iechyd a gofal ein cymunedau lleol am flynyddoedd i ddod.

Rwy’n aelod o’r Pwyllgorau / Is-bwyllgorau canlynol:

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: