Aelod Annibynnol - Cymunedol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB
01267 235151
Aelod Annibynnol - Cymunedol
Mae gen i brofiad sylweddol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gyda chefndir mewn theatrau ar lefelau clinigol a rheolaethol yn ne, gorllewin a chanolbarth Cymru.
Gweithiais o fewn y sector gwirfoddol gyda Barnardos am 15 mlynedd ar lefel weithredol a strategol uwch gyda Gwasanaethau Plant gan gynnwys diogelu, gwasanaethau ataliol ac ymyriadau teuluol.
Gan gymhwyso fel nyrs gyffredinol gofrestredig ym 1986, dechreuais fy ngyrfa nyrsio yn y GIG yn Llanelli, ac roedd fy swydd ddiwethaf yn y GIG ym Mronglais.
Rwy'n siaradwr Cymraeg iaith gyntaf balch ac o gefndir ffermio yn Sir Gaerfyrddin. Rwy’n angerddol tuag at gyfranogiad plant a phobl ifanc mewn gwasanaethau a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.
Mae gen i chwaeth amrywiol mewn cerddoriaeth ac rwy'n mwynhau mynd i gigs cerddoriaeth fyw fel David Gray, Pet Shop Boys, Jack Savoretti, Take That a Pink!
Fy niddordebau personol yw gwartheg Henffordd, darllen, coginio a bwyd, cŵn Springer Spaniel, celf (yn enwedig artistiaid Cymraeg) yna cyfuno'r rhain i gyd i mewn i ffotograffiaeth!
Rwy’n aelod o’r Pwyllgorau / Is-bwyllgorau canlynol: