Neidio i'r prif gynnwy

Ymgysylltu cynnar wedi'i dargedu ym maes Gofal Sylfaenol

Mae gennym weledigaeth a rennir gyda’n cymunedau i ni fyw bywydau iach, llawen.

Oherwydd natur y gwasanaethau a ddarperir ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru, cydnabyddir bod gan ystod eang o wasanaethau rai gwendidau. Roedd hwn yn sbardun allweddol i ddatblygiad strategaeth y Bwrdd Iechyd sy’n ceisio lleihau, os nad dileu, y risgiau i ddarpariaeth gwasanaethau cynaliadwy.

Mae gan ein strategaeth o’r enw ‘Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Cenedlaethau’r Dyfodol yn Byw’n Dda’, yr uchelgais i symud o wasanaeth sy’n trin salwch yn unig i un sy’n cadw pobl yn iach, yn atal afiechyd neu’n gwaethygu afiechyd, ac yn darparu unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch yn gynnar. Hyd nes y bydd y strategaeth wedi'i gweithredu'n llawn, er enghraifft, sefydlu'r rhwydwaith ysbyty newydd, mae gwasanaethau'n rheoli'r gwendidau hyn yn ddyddiol.

Fel rhan o’n hymateb rydym yn datblygu strategaeth Gwasanaethau Sylfaenol a Chymunedol ar gyfer y saith clwstwr sy’n trin cleifion yn y cymunedau ar draws rhanbarth Hywel Dda. Bydd yn nodi’r egwyddorion a’r safonau a fydd yn cefnogi’r gweithgareddau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol diogel a chynaliadwy ar draws y pedwar proffesiwn contractwyr (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol, Fferylliaeth Gymunedol ac Optometreg). Bydd y strategaeth yn amlinellu sut rydym yn gwneud hyn tra hefyd yn cyd-fynd â chyflawni gweledigaeth strategol gyffredinol Cenedlaethol a Bwrdd Iechyd.

Mae Rhaglen y Cynllun Gwasanaethau Clinigol yn cael ei harwain yn glinigol a bydd yn cael ei datblygu mewn modd agored a thryloyw, gydag ymgysylltiad llawn rhanddeiliaid gan gynnwys staff a defnyddwyr gwasanaeth.

Bydd papur materion yn cael ei ddatblygu ar gyfer pob gwasanaeth yn edrych yn ôl i 2018, er mwyn deall beth sy’n dda, beth sydd ddim cystal, a beth sydd angen ei wella.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, neu os hoffech ddweud wrthym am unrhyw beth arall sy'n ymwneud â'r gwasanaethau hyn, anfonwch e-bost at: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk neu ffoniwch: 0300 303 8322 (cyfraddau galwadau lleol).

Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau gallwch ymuno â Siarad Iechyd/Talking Health drwy e-bostio Hyweldda.Engagement@wales.nhs.uk neu ffonio 0300 303 8322 (cyfraddau galwadau lleol), neu ysgrifennu atom yn: FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: