Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun gwasanaethau clinigol

Mae gennym weledigaeth a rennir gyda’n cymunedau i ni fyw bywydau iach a llawen.

Oherwydd natur y gwasanaethau a ddarperir ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru, cydnabyddir bod gan ystod eang o wasanaethau rai gwendidau. Roedd hyn yn sbardun allweddol i ddatblygiad strategaeth y Bwrdd Iechyd sy’n ceisio lleihau, os nad dileu, y risgiau i ddarpariaeth gwasanaethau cynaliadwy.  

Mae gan ein strategaeth o’r enw ‘Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Cenedlaethau’r Dyfodol yn Byw Bywydau Iach’ (agor mewn dolen newydd, Saesneg yn unig), yr uchelgais i symud o wasanaeth sydd ond yn trin salwch i un sy’n cadw pobl yn iach, yn atal afiechyd neu waethygiad afiechyd, ac yn darparu unrhyw help sydd ei angen arnoch yn gynnar. Hyd nes y bydd y strategaeth wedi'i gweithredu'n llawn, yn enwedig sefydlu'r rhwydwaith ysbytai newydd arfaethedig, mae'n rhaid i wasanaethau reoli'r gwendidau hyn yn ddyddiol.  

Mae'r pandemig wedi datgelu'r diffygion hyn ymhellach, gyda llawer o wasanaethau'n methu ag adfer lefelau gweithgaredd neu fodelau gwasanaeth cyn-COVID. I ymateb i hyn, rydym yn mynd i adolygu gwasanaethau sydd angen sylw ar frys fel y gallwn ddatblygu set o gynlluniau i gefnogi gwasanaethau allweddol yn y tymor canolig.  

Dyma rai o’r gwasanaethau sydd wedi’u cynnwys yn y rhaglen Cynllun Gwasanaethau Clinigol: 

  1. Llawfeddygaeth Gyffredinol Frys 
    Mae Llawfeddygaeth Gyffredinol Frys yn ddisgyblaeth lawfeddygol sy'n cwmpasu achosion brys yn yr abdomen yn bennaf. Mae'r gwasanaeth llawfeddygol cyffredinol ar gyfer trin cleifion â phroblemau brys.  

  1. Offthalmoleg (gofal llygaid) 
    Offthalmoleg yw trin clefydau, anafiadau, a gweithdrefnau llawfeddygol ar y llygaid. Mae ein gwasanaeth ar gyfer cleifion pediatrig ac oedolion yn ein hardal sydd â phroblemau golwg sydd angen triniaeth.  

  1. Orthopaedeg 
    Mae orthopedeg, a elwir hefyd yn llawdriniaeth orthopedig, yn gangen o feddygaeth sy'n canolbwyntio ar ofal y system ysgerbydol a'i rhannau rhyng-gysylltiol. 

  1. Wroleg 
    Mae wroleg yn gofalu am gleifion sy'n oedolion â chyflyrau wrolegol. Mae’r gwasanaeth Wroleg yn canolbwyntio ar ofal system y llwybr cenhedlol-wrinol mewn dynion a merched (e.e., yr arennau, y bledren) a’r llwybr atgenhedlu mewn dynion (ee, y gaill, y pidyn, a’r prostad).   

  1. Gofal Critigol 
    Mae Gofal Critigol yn darparu triniaeth i oedolion, mewn ardal ar wahân a hunangynhwysol o'r ysbyty. Mae'r unedau wedi'u neilltuo i reoli a monitro cleifion â chyflyrau sy'n peryglu bywyd a chyflyrau critigol. Mae'r gwasanaeth yn cynnig sgiliau arbenigol sy'n cynnwys personél meddygol, nyrsio a phersonél eraill sydd â phrofiad o reoli'r cleifion hyn. 

  1. Dermatoleg 
    Mae gwasanaethau dermatoleg yn canolbwyntio ar ddiagnosio a thrin afiechydon y croen, y gwallt a'r ewinedd mewn plant ac oedolion. 

  1. Strôc 
    Mae strôc yn gyflwr meddygol difrifol sy'n bygwth bywyd sy'n digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i ran o'r ymennydd yn cael ei dorri i ffwrdd.  

  1. Radioleg 
    Arbenigedd meddygol yw radioleg sy'n defnyddio technegau delweddu (fel pelydrau-X) i wneud diagnosis, trin a monitro clefydau ac anafiadau a nodir yn y corff. 

  1. Endosgopi 
    Mae endosgopi yn driniaeth a ddefnyddir mewn meddygaeth i edrych y tu mewn i'r corff. Mae'r weithdrefn endosgopi yn defnyddio endosgop i archwilio'r tu mewn i organ wag neu geudod yn y corff. Yn wahanol i lawer o dechnegau delweddu meddygol eraill, caiff endosgopau eu gosod yn uniongyrchol i'r organ.   

  1. Gwasanaethau Gofal Sylfaenol 
    Mae Gofal Sylfaenol wedi’i ddiffinio, yn y cyd-destun hwn fel:

  • Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS)
  • Fferylliaeth Gymunedol
  • Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (GDS)
  • Gwasanaethau Optometreg.

Yn ogystal â’r pedwar gwasanaeth Contractwr hyn, mae’r diffiniad o Ofal Sylfaenol hefyd yn cynnwys y canlynol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

  • Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol (CDS)
  • Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau (OOH).

Cam 1

Fel rhan o gam cyntaf yr adolygiad, rhannwyd arolwg gyda chleifion ym mis Hydref a mis Tachwedd 2023, i gasglu eu barn ar ddefnyddio ein gwasanaethau sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Gwasanaethau Clinigol. Gwahoddwyd staff hefyd i rannu eu barn drwy gwblhau arolwg yn ystod mis Medi a mis Hydref 2023. Roedd cam cychwynnol Gofal Sylfaenol a Chymunedol yn gwahodd y pedwar proffesiwn contractio, yn ogystal â’r gweithlu y tu allan i oriau a deintyddol cymunedol, i rannu eu hadborth drwy gwblhau arolwg a oedd ar agor rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Ionawr 2024.

Mae papur materion wedi'i ddatblygu sy'n amlygu ystod eang o ffactorau sy'n effeithio ar ein gwasanaethau ac sy'n cynnwys yr adborth a gafwyd drwy'r arolygon staff, cleifion a chontractwyr. Cyflwynwyd y papur materion i gyfarfod Bwrdd Cyhoeddus ein Bwrdd Iechyd ar 28 Mawrth 2024. Mae’r papur materion i’w weld yma (agor mewn dolen newydd).

Cam 2

Yn dilyn cyflwyno'r papur materion i'r Bwrdd Cyhoeddus, y cam nesaf yw i'r naw maes gwasanaeth (ac eithrio Gofal Sylfaenol a Chymunedol) adolygu'r materion sy'n effeithio ar bob gwasanaeth mewn gweithdai sy'n cynnwys ein staff a chynrychiolwyr cleifion. Bydd y gweithdai'n datblygu set o opsiynau posibl a fydd yn cefnogi ac yn gwella'r gwasanaethau hyn dros y blynyddoedd i ddod. Mae'r opsiynau a ddatblygwyd yng Ngham 2 ar gyfer darparu Rhaglen y Cynllun Gwasanaethau Clinigol yn seiliedig ar egwyddorion gofal sy'n ddiogel, cynaliadwy, hygyrch a charedig.

 

Mae graffig yn dangos proses 8 cam sy

Y cam nesaf ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol yw datblygu strategaeth a fydd yn nodi'r egwyddorion a'r safonau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol diogel a chynaliadwy.

Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus wrth i ni weithio i wella ein gwasanaethau.

Os hoffech rannu eich barn ar eich profiadau o ddefnyddio unrhyw un o’r gwasanaethau a amlinellir yn y Cynllun Gwasanaethau Clinigol, cysylltwch â ni:

Os ydych yn dymuno cael eich hysbysu am ddatblygiadau ar un neu fwy o’r gwasanaethau uchod, rhannwch eich manylion cyswllt â ni, a nodwch y gwasanaeth/au yr hoffech gael gwybod amdanynt (e.e. Wroleg /Offthalmoleg).

I gael y newyddion diweddaraf ar ddatblygiadau cyffredinol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ymunwch â Siarad Iechyd/Talking Health trwy gysylltu â ni neu trowch at y wefan Siarad Iechyd/ Talking Health (agor mewn dolen newydd)

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: