Neidio i'r prif gynnwy

Pa wasanaethau fyddai'n cael eu darparu o ysbytai Glangwili a Llwynhelyg sydd wedi'u hailbwrpasu neu eu hailadeiladu?

Bydd y safleoedd hyn yn gweithredu fel ysbytai cymunedol lleol, gyda therapi a gwelyau dan arweiniad nyrsys, yn canolbwyntio ar adsefydlu ac anghenion llai aciwt.

Byddant yn caniatáu i ni ddarparu gofal brys yr un diwrnod ar gyfer cyflyrau cerdded i mewn, gyda chanolfannau gofal brys/unedau mân anafiadau dan arweiniad meddygon teulu.

Bydd ganddynt welyau cam-i-fyny a cham-i-lawr. Mae’r rhain yn darparu dewis arall yn lle arhosiad yn yr ysbyty i bobl sydd angen mwy o ofal a thriniaeth nag y gellir eu darparu iddynt gartref, neu i alluogi pobl i gael eu rhyddhau o’r ysbyty yn dilyn salwch acíwt neu lawdriniaeth os oes angen cyfnod o adsefydlu arnynt.

Bydd ganddynt gyfleusterau ar gyfer rhai gweithdrefnau achosion dydd a byddant yn gallu cynnal profion fel pelydr-x, uwchsain, a mamograffeg.

Byddant yn parhau i gael unedau dan arweiniad bydwragedd, yn ogystal â chyfleusterau a gwasanaethau ar gyfer dialysis arennol a chemotherapi.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: