Os caiff ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, bydd y rhaglen yn cynnwys adnewyddu Ysbyty Tywysog Philip erbyn gaeaf 2032.
Bydd yr ysbyty yn parhau i fod yn ysbyty cyffredinol lleol, yn cefnogi derbyniadau meddygol acíwt ac yn gweithredu fel canolbwynt sefydlogi a throsglwyddo ar gyfer rhai cyflyrau arbenigol, fel y mae ar hyn o bryd. Bydd yn parhau i gael:
- Canolfan gofal brys/uned mân anafiadau dan arweiniad meddygon teulu 24/7
- Meddygaeth acíwt 24/7, gan gynnwys derbyniadau a gwelyau dros nos dan arweiniad ymgynghorwyr a gallu gofal dibyniaeth uchel
- Diagnosteg 24/7 (profion, sganiau ac ati)
- Gofal critigol
- Llawdriniaeth ddydd ac endosgopi
- Clinigau cleifion allanol a chlinigau cerdded i mewn arbenigol
- Cemotherapi
- Cyfleusterau i gynnig genedigaethau dan arweiniad bydwragedd