Neidio i'r prif gynnwy

A fyddai llawdriniaethau dydd a theatrau dydd ar gael o ysbytai Llwynhelyg / Glangwili?

Mae angen inni wneud rhagor o waith gyda’n staff clinigol a staff eraill, partneriaid, a’r cyhoedd i ymgysylltu ar fanylion ein llwybrau gwasanaeth.

Mae Achos Busnes Rhaglen yn darparu prosbectws o opsiynau, a bydd angen eu datblygu ymhellach yn y cam busnes nesaf os caiff ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd, rydym wedi cynnwys opsiwn ar gyfer trawsnewid ‘lleiafswm’ ar gyfer ysbytai Glangwili a Llwynhelyg. Byddai hynny’n tybio y byddem yn cadw saith ward (24 gwely cleifion mewnol yr un), dwy theatr ddydd ac ystafell endosgopi yng Nglangwili, a phedair ward (24 gwely cleifion mewnol yr un), dwy theatr ddydd ac ystafell endosgopi yn ysbyty Llwynhelyg.

Byddai’r senario ‘tebygol’, a’r senarios ‘effeithlonrwydd mwyaf’ ill dau yn golygu ein bod yn cadw tair ward (24 gwely cleifion mewnol yr un) yn Ysbyty Glangwili a dwy ward (24 gwely cleifion mewnol yr un) yn Ysbyty Llwynhelyg gyda gweithgaredd llawdriniaethau dydd a gwasanaethau chymorth clinigol wedi'u hadleoli i'r Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi'i Gynllunio newydd.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: