Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth prentis gofal iechyd

Mae'r rhaglen Prentisiaeth Gofal Iechyd yn gyfle cyffrous a fydd yn eich galluogi i hyfforddi i ddod yn Nyrs Gofrestredig trwy ddysgu seiliedig ar waith. 

Byddwch yn cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol Agored (lefel 2), cyn parhau i Brentisiaeth mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol (lefel 3), ac yna'n ymgymryd ag addysg prifysgol ar drefniant rhan-amser, gan ddechrau ar lefel 4. 

Pan fyddwch wedi cwblhau'r rhaglen, byddwch yn Nyrs Gofrestredig gymwys, ac ni fyddwch wedi gorfod talu am unrhyw ffioedd prifysgol. Byddwch yn ennill arian trwy gydol yr amser y byddwch yn dysgu.  

Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â nyrsys cofrestredig a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill. Wrth weithio gyda mentor mewn ardaloedd i gleifion, yn paratoi i ddarparu gofal i gleifion, cewch gipolwg ar ofal.  Byddwch hefyd yn cael cyfle i weithio mewn meysydd eraill i'ch helpu i gael dealltwriaeth dda o amrywiaeth o rolau swyddi sy'n gweithio ochr yn ochr â thimau nyrsio.

Pan fyddwch wedi dod yn nyrs gofrestredig, nodwch y bydd disgwyl i chi barhau'n gyflogedig gyda'r Bwrdd Iechyd am o leiaf ddwy flynedd.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: