Bydd eich meddyg teulu wedi eich atgyfeirio at un o'n timau o weithwyr iechyd proffesiynol, a bydd yr adran cleifion allanol y byddwch yn mynd iddi wedi anfon manylion sylfaenol atoch gyda'ch llythyr apwyntiad.
Bydd y bwrdd iechyd yn parhau i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd yn gyffredinol i wisgo masgiau/gorchuddion wyneb wrth fynd i mewn i’w gyfleusterau, gan sicrhau eu bod ar gael mewn mannau cyhoeddus/wardiau/adrannau. Gofynnwch am gael siarad â'r uwch-chwaer/nyrs uwch-ofal i drafod unrhyw anghenion unigol wrth gefnogi eich ymweliad â chleifion allanol.
Os bydd arnoch angen cyfieithydd ar gyfer eich ymgynghoriad, neu os bydd gennych unrhyw ofynion arbennig pan fyddwch yn ymweld â'r ysbyty, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn trefnu eich apwyntiad.