Neidio i'r prif gynnwy

Rheolwyr ysbytai lleyg

Rydym am benodi pobl addas i gyflawni rôl Rheolwyr Ysbytai Lleyg.Mae rôl rheolwr ysbyty yn rôl statudol fel y'i diffinnir yn Neddf Iechyd Meddwl 1983 (y Ddeddf) ac mae'n darparu amddiffyniad i'r cleifion hynny sy'n cael eu cadw dan y Ddeddf neu sy'n destun gorchmynion triniaeth gymunedol.

Mae rheolwr ysbyty lleyg yn rôl a ddirprwyir gan swyddogion a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd er mwyn cynnal adolygiadau o orchmynion cadw neu driniaethau cymunedol ar gyfer y cleifion hynny o dan y Ddeddf. Gan gymryd rhan fel aelod panel o dri byddwch yn ystyried a chraffu i weld a yw’r cyfiawnhad cyfreithiol wedi’i fodloni a/neu a ddylech arfer y pŵer rhyddhau.

Darperir cyfnod cychwynnol o hyfforddiant er mwyn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ac i gefnogi'r swyddogaeth a gyflawnir ar ran rheolwyr yr ysbyty. Mae'n ofynnol i aelodau fynychu unrhyw sesiynau hyfforddi a chyfarfodydd a gynhelir bob pedwar mis.

Rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau o amrywiaeth eang o gefndiroedd gan gynnwys unigolion sydd wedi cael profiad uniongyrchol o wasanaethau iechyd meddwl a rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol fel lleiafrifoedd du a lleiafrifoedd eraill.

Mae hon yn rôl bwysig a heriol a dylai fod gan reolwyr ysbyty sgiliau cyfathrebu cryf a all annog cleifion i fynegi eu teimladau eu hunain am eu gorchymyn cadw neu driniaeth gymunedol. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau gwrando da a'r gallu i gymhathu gwybodaeth yn gyflym a rhaid iddynt hefyd gydnabod a pharchu materion yn ymwneud â chyfrinachedd a diogelu data.

Mae rheolwyr ysbytai yn annibynnol ar y Bwrdd Iechyd fel eu bod yn parhau i fod yn ddiduedd gydag agwedd gadarnhaol tuag at degwch a chydraddoldeb wrth sicrhau bod hawliau cleifion yn cael eu cynnal o fewn telerau’r Ddeddf Iechyd Meddwl wrth wneud penderfyniadau ar sail y dystiolaeth a gyflwynir iddynt.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cynnig tâl am fynychu fel aelod o’r panel ac am unrhyw gostau teithio tra ar fusnes y Bwrdd Iechyd ynghyd â thabled gyfrifiadurol electronig.

I gael rhagor o wybodaeth a/neu gyflwyno CV, cysylltwch â Ruth Bourke, Arweinydd Gweinyddol y Ddeddf Iechyd Meddwl Ruth.bourke@wales.nhs.uk.

Os cewch eich penodi, efallai y bydd angen gwiriad DBS a chliriad iechyd galwedigaethol.

Buddion a Gwerthoedd

Rydym yn rhoi gwerth ar ein staff gweler ein rhwydweithiau a'n…

Cysylltu a'r Tim Recriwtio

Gallwn ddarparu cymorth i chi ddod o hyd i'r swydd iawn ar eich…

Swyddi Gwag Cyfredol

Mae gennym amrywiaeth o swyddi gwag ar gael mynnwch olwg 

traeth

Byw yn ardal Hywel Dda

Teithiau rhithwir byw a gweithio yn Hywel Dda