Rydym am i'n staff gynrychioli ein cymunedau, ac rydym yn ymrwymedig i wneud cydraddoldeb yn realiti. Rydym yn annog pobl o bob cefndir a grŵp ethnig i ymgeisio am ein swyddi.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn caniatáu i ni ddefnyddio Gweithredu Cadarnhaol wrth hyrwyddo swyddi a recriwtio pobl. Mae Gweithredu Cadarnhaol yn ymwneud ag annog pobl i ymgeisio am swyddi a bod ar delerau cyfartal ag eraill. Nid yw'n golygu rhoi mantais annheg i rai pobl oherwydd eu nodweddion gwarchodedig. Rydym yn trin pawb yn gyfartal.
Y naw nodwedd warchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yw: Oedran; Anabledd; Ailbennu rhywedd; Priodas a phartneriaeth sifil; Beichiogrwydd a mamolaeth; Hil; Crefydd neu gred; Rhywedd a Chyfeiriadedd rhywiol.
Mae Gweithredu Cadarnhaol yn ymwneud â lleihau'r anfanteision y mae rhai pobl yn eu profi wrth ymgeisio am swyddi. Gallai hyn fod mor syml ag egluro rhai anwireddau a allai fod gan rai cymunedau ynghylch y bwrdd iechyd.
Mae gwahaniaethu cadarnhaol, megis recriwtio pobl oherwydd eu rhywedd, eu hethnigrwydd neu eu cyfeiriadedd rhywiol, yn erbyn y gyfraith.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Weithredu Cadarnhaol, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â: RecruitmentCampaigns.hdd@wales.nhs.uk neu Inclusion.hdd@wales.nhs.uk
Rhwydweithiau staff Hywel Dda
Rydym yn falch o fod â nifer o grwpiau a rhwydweithiau staff sy'n cynnig cymorth gan gymheiriaid i'n staff. Gallwch ddarllen rhagor amdanynt ar ein tudalen Rhwydweithiau Hywel Dda (agor mewn tab newydd).