Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu ein staff

Cydnabyddiaeth

Yn Hywel Dda rydym yn cydnabod gwaith anhygoel ein staff, ac yn dathlu’r pethau bach y mae cyd-weithwyr yn eu gwneud sy’n cael effaith gadarnhaol ar ddiwrnodau pobl. Rydym yn annog pob tîm ledled y Bwrdd Iechyd i ymwneud â gwerthfawrogiad gan gyd-weithwyr.

 

Gwobrau

Mae ein gwobrau yn fodd i ni ddathlu'r staff sy'n byw ein gwerthoedd cyffredin ac yn ein galluogi i gydnabod eu cyfraniadau gwych. Mae'r gwobrau’n cynnwys y canlynol:

  • Gwobr Cymeradwyaeth y Cadeirydd: Mae'r gwobrau hyn yn galluogi'r staff i enwebu cyd-weithiwr, a'u nod yw cydnabod staff sydd wedi amlygu tosturi, arloesedd neu gydweithrediad, a hynny i lefel ragorol.
  • Cymeradwyaeth Hywel: Mae'r gwobrau hyn yn cael eu harwain gan y staff ac yn cydnabod staff am eu hymddygiad a'u cyflawniadau sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd.
  • Gwobrau Gwasanaeth Hir: Rydym yn gwerthfawrogi ymroddiad i'r gwasanaeth ac yn dathlu hyn gyda staff wrth iddynt gyrraedd cerrig milltir allweddol, sef pum mlynedd, 10 mlynedd, 25 mlynedd a 40 mlynedd o wasanaeth. Mae'r cymhellion yn amrywio ar bob carreg filltir, ac mae hawl i wyliau blynyddol ychwanegol a dyfarniadau dathliadol yn rhan o'r pecyn cydnabyddiaeth.

Buddion a Gwerthoedd

Rydym yn rhoi gwerth ar ein staff gweler ein rhwydweithiau a'n…

Cysylltu a'r Tim Recriwtio

Gallwn ddarparu cymorth i chi ddod o hyd i'r swydd iawn ar eich…

Swyddi Gwag Cyfredol

Mae gennym amrywiaeth o swyddi gwag ar gael mynnwch olwg 

traeth

Byw yn ardal Hywel Dda

Teithiau rhithwir byw a gweithio yn Hywel Dda