Yn ystod tri mis cyntaf y rhaglen brentisiaeth, byddwch yn cael Cyflog Prentisiaeth Cenedlaethol, sydd ar hyn o bryd yn £6.40* yr awr. Ar ôl y tri mis cyntaf, byddwch yn cael Adolygiad, ac os byddwch yn llwyddiannus, bydd eich cyflog yn cynyddu wrth i chi symud drwy'r hyfforddiant. Ar ôl cwblhau Lefel 2 yn llwyddiannus, bydd eich cyflog yn cyd-fynd â chyflog Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Band 2 o £22,720*.
* Cyfraddau cyflog yn gywir ym mis Ebrill 2024.