Mewn achos o argyfwng gwirioneddol sy'n peryglu bywyd fel:
peidiwch ag oedi cyn ffonio 999, neu ymweld â'ch Adran Damweiniau ac Achosion Brys agosaf.
Os ydych chi'n fyddar neu â nam ar eich lleferydd gallwch gyrchu gwasanaethau 999 gan ddefnyddio Relay UK. Bydd angen i chi lawrlwytho ap Relay UK i'ch ffôn clyfar neu ddyfais arall. Mewn argyfwng agorwch yr ap a tapiwch y botwm 999 a chadarnhewch i wneud galwad frys. Gallwch hefyd ddefnyddio'r 999 gan ddefnyddio neges destun SMS. Bydd angen cofrestru'ch ffôn gyda'r gwasanaeth ymlaen llaw. I gofrestru anfonwch neges destun gyda’r geiriau ‘cofrestru’ i 999 a dilyn y cyfarwyddiadau yn yr ateb a dderbyniwch. Gallwch ddarganfod mwy o'r wefan SMS frys.
Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, angen gwybodaeth neu gyngor neu os oes angen manylion fferyllfa neu adran damweiniau ac achosion brys sy'n agos atoch chi, ffoniwch 111.