Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw pwrpas yr ymchwil?

Nod yr astudiaeth hon yw cymharu sawl triniaeth wahanol a allai fod yn ddefnyddiol i gleifion â COVID-19. Mae'r triniaethau hyn wedi cael eu hargymell i'w profi gan y panel arbenigol sy'n cynghori'r Prif Swyddog Meddygol yn Lloegr. Mae rhai yn dabledi ac mae rhai yn bigiadau. Er bod y triniaethau hyn yn dangos addewid, does neb yn gwybod a fydd unrhyw un ohonyn nhw'n troi allan i fod yn fwy effeithiol wrth helpu cleifion i wella na'r safon arferol o ofal yn eich ysbyty (y bydd pob claf yn ei dderbyn).

Y triniaethau, y gellir eu rhoi yn ychwanegol at y gofal arferol yn eich ysbyty, yw: Lopinavir-Ritonavir (a ddefnyddir yn gyffredin i drin HIV); Interferon wedi'i anadlu (fel arfer yn cael ei roi trwy bigiad i drin sglerosis ymledol, hepatitis C, a rhai anhwylderau gwaed); dexamethasone (math o steroid, a ddefnyddir mewn ystod o gyflyrau yn nodweddiadol i leihau llid); neu hydroxychloroquine (triniaeth ar gyfer malaria). Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod a yw unrhyw un o'r rhain yn effeithiol wrth drin COVID-19.

Fodd bynnag, mae'r sgîl-effeithiau yn adnabyddus o ddefnyddiau eraill a bydd eich meddyg yn gallu eich monitro'n briodol.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: