Bydd eu meddygfeydd yn cysylltu â phobl rhwng 70 a 74 oed a'r rhai y nodwyd eu bod yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol (yr ysgrifennwyd atynt yn ddiweddar er mwyn iddynt warchod eu hunain) i gael eu dos cyntaf o'r brechlyn yr wythnos hon.
Ar yr un pryd, bydd meddygon teulu yn cwblhau brechu neu'n sicrhau eu bod wedi cysylltu â phob un dros 80 oed yn eu hardaloedd.
Mae meddygfeydd hefyd wedi bod yn brysur yn brechu preswylwyr cartrefi gofal oedolion hŷn. Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y bwrdd iechyd fod tua 85.7% o oedolion hŷn mewn cartrefi gofal cymwys wedi cael eu brechu ac mae'r ffigwr hwn wedi codi ymhellach yr wythnos hon i fwy na 90%.
Hoffem ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi helpu eraill i ddod i'w hapwyntiadau brechu yn ystod yr wythnosau diwethaf. Cafwyd ymateb anhygoel gan y gymuned, a dros yr wythnosau nesaf byddwn yn ceisio rhannu cymaint ag y gallwn yn ein bwletinau diweddaru, gan ddechrau'r wythnos hon gydag ymdrechion anhygoel Tuk Tuk Time.
Wedi'i leoli yn Sir Benfro, efallai y bydd Tuk Tuk Time yn fwy cyfarwydd â chludo parau ar ddiwrnod eu priodas neu’n rhoi taith o amgylch y sir i ymwelwyr, ond yn ystod yr wythnosau diwethaf mae'r tîm wedi helpu i gludo pobl, yn rhad ac am ddim, i'w hapwyntiadau brechu.
Meddai Lorriane Niederlag, perchennog Tuk Tuk Time: “Âi’r daith neu’r gyrchfan sy’n bwysig mewn bywyd? Wel, rydyn ni'n falch o fod yn rhan o'r ddau beth." Diolch i Lorraine a'r tîm i gyd am eich ymdrechion anhygoel ac am helpu'ch cymuned.
Mae'r bwrdd iechyd yn gweithio'n agos gyda sefydliadau cymunedol a grwpiau trafnidiaeth i sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei rhoi i'r rheini sy'n wirioneddol yn ei chael hi'n anodd teithio i ganolfan brechu torfol. Cysylltwch â'r bwrdd iechyd gan ddefnyddio'r rhif ar eich llythyr apwyntiad os oes angen cymorth arnoch gyda chludiant neu ewch i'n tudalen gwefan Canolfannau Brechu Torfol