Croeso i’r pedwerydd rhifyn o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.
Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Rydym yn falch o adrodd, ers dechrau’r rhaglen frechu, mae 52,923 o bobl yn ardal Hywel Dda wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn, sy’n 13.7% o’n poblogaeth.
Mae meddygfeydd hefyd wedi bod yn brysur yn brechu preswylwyr cartrefi gofal oedolion hŷn. Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y bwrdd iechyd fod tua 85.7% o oedolion hŷn mewn cartrefi gofal cymwys wedi cael eu brechu ac mae'r ffigwr hwn wedi codi ymhellach yr wythnos hon i 92.1%.
Dywed Prif Weithredwr BIP Hywel Dda, Steve Moore: “Ein nod yw cynnig y brechlyn i 100% o’r bobl yn y grwpiau blaenoriaeth ac yn realistig rydym yn disgwyl brechu tua 75% o'r boblogaeth. Felly mae'r nifer uchel sy'n manteisio ar y brechlyn yn y grwpiau blaenoriaeth - lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf i amddiffyn y rhai mwyaf bregus rhag marwolaeth neu niwed difrifol o COVID-19 - yn galonogol iawn, ac rydym yn hyderus y byddwn yn cyrraedd y targed o gynnig brechu i bobl yn y grwpiau blaenoriaeth 1-4 erbyn canol mis Chwefror.
“Rydym yn cyflwyno’r rhaglen frechu hon mor gyflym ag y gallwn, gyda thimau’n gweithio’n ddi-flino, ac yn defnyddio ein holl gryfderau fel system iechyd integredig. Ein nod yw sicrhau ein bod yn cyrraedd pawb yn y grwpiau blaenoriaeth uchaf cyn gynted â phosib a hynny mor agos â phosib at eu cartrefi, gan gydnabod y gwahanol fathau o frechlyn sydd ar gael inni a'r lefelau cyflenwi tebygol. Dyna pam y bydd rhai grwpiau’n cael eu brechu yn eu meddygfa leol gan feddygon teulu ac eraill mewn canolfannau brechu torfol, weithiau ar yr un pryd.”
Grŵp Blaenoriaeth | Nifer â frechwyd | Canran derbyn |
---|---|---|
P1.1 - Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn | *2,378 | 92.1% |
P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal | 2,947 | 84.3% |
P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn | 19,026 | 83.8% |
P2.2 & 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol | 17,280 | 82.3% |
P3 - Pob un 75 oed a hŷn | 5,142 | 26.3% |
P4.1 -Pob un 70 oed a hŷn | 1,286 | 4.9% |
P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol | 477 | 4.8% |
Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu** | 4,078 | 2.6% |
Cyfanswm: | 52,923 | 13.7% |
Mae'r oriel isod yn cynnwys y straeon canlynol, cliciwch 'darllen mwy' i'w gweld.
Ymestyn gwahoddiadau brechu i grŵp blaenoriaeth 4 (agor mewn dolen newydd)
Cefnogaeth gyda chludiant er mwyn teithio i apwyntiadau (agor mewn dolen newydd)
Diolch i’r rhai sy’n cefnogi ein cymunedau (agor mewn dolen newydd)
Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu
Yr wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn. Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.