Croeso i rifyn 34 o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel dda ar y brechlyn
Bydd y digwyddiad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae pob person 16 a 17 oed bellach wedi derbyn eu cynnig o frechlyn COVID-19, gyda'r holl apwyntiadau wedi'u hamserlennu erbyn diwedd mis Awst. Mae clinigau cerdded i mewn hefyd ar agor ym mhob canolfan brechu torfol (agor mewn dolen newdd) BIP Hywel Dda, gan gynnig cyfle i'r rheini gael eu brechu pan yn gyfleus.
Mae apwyntiadau yn cael eu trefnu ar gyfer pobl ifanc 12 i 15 oed sy'n gymwys i gael y brechlyn fel y nodwyd gan y JCVI. Os ydych chi o dan 16 oed, peidiwch â mynychu clinig cerdded i mewn. Dylid gwneud apwyntiad trwy ffonio 0300 303 8322 neu e-bostio COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk
Mae manteisio ar y cynnig o dderbyn y frechlyn yn bwysig i bawb, yn enwedig i bobl ifanc fel eu bod mewn risg is o effeithiau coronafeirws nawr ein bod yn gallu cymdeithasu mwy.
Mae hynny’n golygu ein bod yn awr:
Ddydd Gwener 3 Medi, bydd y ganolfan frechu dorfol sydd wedi’i lleoli ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Santy ng Nghaerfyrddin yn symud o Ganolfan Gynadledda Halliwell i hen Feithrinfa Gamfa Wen ar yr un safle. Bydd arwyddion ar waith i gyfeirio pobl i'r lleoliad newydd.
Bydd y ganolfan ar gau tan ddydd Sul 5 Medi. Cyhoeddir amseroedd agor y ganolfan yn ei lleoliad newydd yn Gamfa Wen ar ein gwefan cyn gynted â phosibl. Gwelwch dudalen canolfannau brechu torfol (aogr mewn dolen newydd) am fwy o wybodaeth.
Yn dilyn llwyddiant ein fan brechu symudol mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (agor mewn dolen newydd), mae cynlluniau ar waith i ddychwelyd i leoliadau yr ymwelwyd â hwy o'r blaen i bobl dderbyn eu hail ddos o’r brechlyn. Bydd dosau cyntaf yn dal i fod ar gael o'r fan brechu torfol.
Darperir gwybodaeth bellach am amseroedd a lleoliadau cyn gynted â phosibl ar ein gwefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol a'r cyfryngau lleol.
Grŵp Blaenoriaeth |
Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf |
Canran derbyn dôs gyntaf |
Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs |
Canran derbyn yr ail dôs |
---|---|---|---|---|
P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn |
2,489 | 96.4% | 2,167 | 84.0% |
P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal |
3,503 | 100.3% | 3,315 | 94.9% |
P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn |
22,850 | 100.0% | 22,082 | 96.6% |
P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol |
25,999 | 99.2% | 25,077 | 95.7% |
P3 - Pob un 75 oed a hŷn |
18,707 | 95.9% | 18,360 | 94.1% |
P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn |
25,078 | 95.4% | 24,680 | 93.9% |
P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol |
8,783 | 88.7% | 8,449 | 85.3% |
P5 – Pob un 65 oed a hŷn |
21,741 | 91.0% | 21,369 | 89.5% |
P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl |
39,215 | 87.9% | 37,271 | 83.5% |
P7 - Pob un 60 oed a hŷn |
13,467 | 69.2% | 13,265 | 68.2% |
P8 - Pob un 55 oed a hŷn |
14,985 | 80.6% | 14,662 | 78.8% |
P9 - Pob un 50 oed a hŷn |
15,525 | 95.5% | 15,090 | 92.8% |
P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu |
77,978 | 50.8% | 62,586 | 40.7% |
45 - 49 oed | 11,189 | 70.8% | 10,641 | 67.3% |
40 - 44 oed | 10,627 | 69.9% | 9,798 | 64.5% |
35 - 39 oed | 11,173 | 69.2% | 9,948 | 60.0% |
30 - 34 oed | 11,450 | 67.3% | 9,654 | 55.3% |
25 - 29 oed | 10,849 | 62.2% | 8,757 | 50.2% |
20 - 24 oed | 12,939 | 68.6% | 9,836 | 52.1% |
15 - 19 oed | 9,693 | 64.2% | 3,949 | 26.2% |
Cyfanswm: | 290,321 | 75.0% | 268,373 | 69.3% |