Croeso i rifyn 26 o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.
Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae mwy na 75% o oedolion dan 50 oed wedi cael eu dos cyntaf ledled Cymru. Nid yw'n rhy hwyr i unrhyw un sydd wedi newid ei feddwl ynglŷn â chael brechlyn gael apwyntiad.
Mae gan Gymru bolisi “gadael neb ar ôl” felly os hoffech archebu eich dos brechlyn cyntaf, cysylltwch â'r bwrdd iechyd drwy un o'r ffyrdd canlynol i ofyn am apwyntiad cyn gynted â phosibl:
Ffurflen gais ar-lein ar gyfer dos cyntaf (agor mewn dolen newydd)
Ffurflen gais ar-lein ar gyfer ail ddos - os cawsoch eich brechlyn cyntaf 8 wythnos neu fwy yn ôl (agor mewn dolen newydd)
Rhif Ffôn: 0300 303 8322
E-bost: COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk
Er mwyn helpu holl drigolion Hywel Dda i gael mynediad hawdd a hyblyg i frechlyn COVID-19, mae clinigau brechlyn cerdded i mewn dos cyntaf ac ail yn rhedeg ym mhob canolfan brechu torfol Hywel Dda ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn ogystal a chlinigau iechyd cynenedigol a meddyliol pwrpasol mewn lleoliadau dethol.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac amseroedd agor (agor mewn dolen newydd)
Tra bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau bod cyflenwad da o'r holl frechlynnau ar gael yn y mwyafrif o'n canolfannau, nodwch fod gan y ganolfan gyrru drwodd yng Nghaerfyrddin AstraZeneca Rydychen a Moderna yn unig a dim ond stociau o un brechlyn fydd gan ein canolfan yn Aberteifi ar ddyddiau penodol. Gwiriwch y cyfryngau cymdeithasol neu ffoniwch 0300 303 8322 i sicrhau bod y brechlyn cywir ar gael i chi yn Aberteifi cyn teithio.
Mae clinigau cerdded i mewn ar gael yng nghanolfan brechu torfol Aberteifi ar gyfer brechlynnau Moderna rhwng 9.00am a 5.00pm ddydd Sadwrn 10 a dydd Sul 11 Gorffennaf.
Os bydd rhywun yn mynychu clinig brechu cerdded i mewn ar gyfer ei ail ddos yn gynharach nag 8 wythnos ar ôl eu dos cyntaf, mae staff canolfan frechu torfol Hywel Dda yn cadw'r hawl i wrthod a gofyn iddynt ddychwelyd 8 wythnos yn dilyn eu brechlyn cyntaf.
Yn dilyn llwyddiant y fan brechu symudol Cross Hands yr wythnos diwethaf, bydd clinig brechu COVID-19 yn gweithredu yn Noc Penfro ddydd Iau hwn 8fed i ddydd Sadwrn 10fed Gorffennaf mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Bydd y clinig brechu symudol wedi'i leoli ym maes parcio Western Way (y tu ôl i orsaf betrol Asda, SA72 6DB) a bydd ar agor rhwng 11.00am a 7.00pm. Nid oes angen cysylltu â'r bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad.
Bydd aelodau o'r gwasanaeth tân yn bresennol i roi cyngor diogelwch cymunedol cyffredinol i'r cyhoedd, gan gynnwys am ddiogelwch yn y cartref. Bydd tîm Allgymorth Datblygu Cymunedol y bwrdd iechyd yn ymuno â nhw i estyn allan at bobl o leiafrifoedd ethnig sy'n byw yn Sir Benfro i'w helpu yn ystod pandemig COVID-19, cefnogi cydlyniant cymunedol, a chael gwared ar rwystrau rhag cyrchu gwasanaethau.
Mae gennym bellach rywfaint o sicrwydd am yr ymgyrch i roi brechlynnau atgyfnerthu yn yr hydref. Cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu gyngor dros dro ar 30 Mehefin wrth inni symud i gam nesaf rhaglen frechu COVID-19. Mae hyn yn rhoi inni arweiniad yr ydym yn ei groesawu ar gyfer y cam nesaf o gyflwyno’r rhaglen. Mae cyngor dros dro’r Cyd-bwyllgor (agor mewn dolen newydd) yn argymell y dylai’r ymgyrch i roi brechlynnau atgyfnerthu yn yr hydref ddechrau ym mis Medi 2021. Lleihau unrhyw achosion pellach o COVID-19 yw nod yr ymgyrch, a sicrhau bod y rheini sydd fwyaf agored i niwed gan haint difrifol yn cael eu hamddiffyn cymaint ag sy’n bosibl, cyn i fisoedd y gaeaf gyrraedd.
Am fwy o wybodaeth ewch i Diweddariad wythnosol rhaglen frechu COVID-19 Llywodraeth Cymru: 6 Gorffennaf 2021 (agor mewn dolen newydd).
Grŵp Blaenoriaeth |
Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf |
Canran derbyn dôs gyntaf |
Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs |
Canran derbyn yr ail dôs |
---|---|---|---|---|
P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn |
2,489 | 96.4% | 2,154 | 83.5% |
P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal |
3,481 | 99.6% | 3,206 | 91.8% |
P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn |
22,285 | 99.9% | 21,902 | 95.9% |
P2.2 a 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol |
25,855 | 98.7% | 24,301 | 92.8% |
P3 - Pob un 75 oed a hŷn |
18,683 | 95.7% | 18,177 | 93.1% |
P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn |
25,027 | 95.2% | 24,487 | 93.1% |
P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol |
8,706 | 87.9% | 8,326 | 84.1% |
P5 – Pob un 65 oed a hŷn |
21,671 | 90.7% | 21,083 | 88.3% |
P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl |
38,797 | 87.0% | 35,381 | 79.3% |
P7 - Pob un 60 oed a hŷn |
13,408 | 68.9% | 13,040 | 67.0% |
P8 - Pob un 55 oed a hŷn |
14,879 | 80.0% | 14,142 | 76.0% |
P9 - Pob un 50 oed a hŷn |
14,930 | 91.8% | 13,225 | 81.3% |
P10 - Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu |
69,055 | 44.9% | 15,561 | 10.1% |
45 - 49 oed | 11,138 | 70.4% | 6,546 | 41.4% |
40 - 44 oed | 10,363 | 68.2% | 3,162 | 20.8% |
35 - 39 oed | 10,733 | 66.5% | 1,932 | 11.6% |
30 - 34 oed | 10,762 | 63.3% | 1,637 | 9.4% |
25 - 29 oed | 9,869 | 56.5% | 1,027 | 5.9% |
20 - 24 oed | 11,295 | 59.9% | 953 | 5.1% |
15 - 19 oed | 4,893 | 32.4% | 303 | 2.0% |
Cyfanswm: | 279,807 | 72.2% | 214,985 | 55.5% |