Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin - Rhifyn 10 - Cyhoeddwyd 17 Mawrth 2021

Croeso i’r degfed rhifyn o fwletin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y brechlyn.

Bydd y diweddariad wythnosol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chynnydd y Rhaglen Brechu Torfol COVID-19 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae’r nifer o frechiadau sydd wedi’u rhoi yr wythnos hon wedi cynyddu’n sylweddol i 26,559 a hoffwn ddiolch i bawb sy’n gweithio’n galed dros ben i gadw’r gwaith pwysig hwn i fynd.

Yma yn BIP Hywel Dda, mae 39.5% o’n poblogaeth bellach wedi cael y dos cyntaf o’r brechlyn ac mae 5.9% wedi cael y cwrs llawn.

Unwaith y bydd pawb yn y grwpiau blaenoriaeth 1 i 9 wedi cael cynnig eu dos cyntaf o'r brechlyn, yn ogystal â pharhau â'r rhaglen ail ddos, bydd GIG Cymru yn symud ymlaen at y rhai 40-49 oed, yn unol â chyngor diweddar y JCVI ar gam 2 y rhaglen. Bydd y grŵp hwn yn cychwyn o 19 Ebrill a byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth yn ymhen amser ynghylch ble y bydd y grŵp hwn yn cael eu brechu.

Ein nod yw cynnig y brechlyn i bob oedolyn cymwys yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro erbyn diwedd mis Gorffennaf.

 

Annog pawb i gael y brechlyn AstraZeneca pan gynigir ef

Yn dilyn y newyddion yr wythnos hon bod rhai gwledydd wedi oedi cyn cyflwyno’r brechlyn AstraZeneca, mae’r bwrdd iechyd eisiau sicrhau pobl y bydd diogelwch bob amser yn dod yn gyntaf ac anogir pawb i gael y brechlyn AstraZeneca COVID-19 pan fyddant yn cael ei gynnig.

Mae diogelwch brechlyn yn cael ei fonitro'n barhaus ac mae'r mater hwn yn cael ei adolygu'n agos, ond nid yw'r dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn cadarnhau bod y brechlyn hwn yn achosi ceuladau gwaed.

Dywed Asiantaeth Meddyginiaethau Ewrop (EMA), Sefydliad Iechyd y Byd a rheoleiddiwr meddygaeth y DU i gyd fod y brechlyn yn ddiogel i'w roi.

Meddai Cyfarwyddwr Digwyddiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Giri Shankar: “Mae’r corff rheoleiddio, Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), wedi dweud na chadarnhawyd bod yr adroddiadau am geuladau gwaed wedi’u hachosi gan y brechlyn COVID-19 AstraZeneca. Mae wedi dweud, o ystyried y nifer fawr o ddosau a roddir, ac pa mor aml y gall ceuladau gwaed ddigwydd yn naturiol, nid yw'r dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu mai'r brechlyn yw'r achos. 

“Diogelwch pobl sydd bob amser yn dod yn gyntaf. Rydym yn monitro diogelwch y brechlyn yn barhaus ac rydym yn adolygu'r mater hwn yn agos, ond nid yw'r dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn cadarnhau bod y brechlyn hwn yn achosi ceuladau gwaed. Dylai pobl ddal i fynd i gael eu brechlyn pan ofynnir iddynt wneud hynny.”

 

Gwirfoddolwyr wrth galon y rhaglen frechu

Cyfarfod rhwng wirfoddolwyr

A wyddoch chi bod dros 350 o bobl o'n cymuned wedi cynnig eu cefnogaeth i wirfoddoli yn un o'n canolfannau brechu torfol?

Hoffem ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r ymateb aruthrol hwn, gan gynnwys sefydliadau partner sydd wedi bod yn wych yn ein cefnogi i recriwtio ein gwirfoddolwyr.

Mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad enfawr at redeg ein clinigau yn ddi-drafferth ac wedi bod yno beth bynnag fo'r tywydd - heulwen, glaw, eirlaw ac eira!

 

Cynnydd ail ddos y brechlyn

Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu amddiffyn ein cymuned trwy ddarparu dos cyntaf y brechlyn i fwy na thraean o'n poblogaeth, y gyfradd ail uchaf ar gyfer y ffigur hwn yng Nghymru.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae canolfannau brechu torfol y bwrdd iechyd wedi canolbwyntio ar ddarparu ail ddos y brechlyn i weithwyr cartrefi gofal a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 a 2 gan ddefnyddio’r brechlyn Pfizer. Dengys ffigurau lleol a gofnodwyd bod 61.5% o staff cartrefi gofal, 77.4% o weithwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol wedi'u brechu'n llawn.

Mae ein meddygon teulu hefyd yn gweithio'n galed i roi'r brechlyn i'n cymunedau. Ar hyn o bryd maent yn cynnig brechiad cyntaf i'n grŵp blaenoriaeth mwyaf (grŵp 6) o bobl 16-64 oed sydd â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes a gofalwyr di-dâl.

Bydd meddygon teulu yn cynnig ail ddos y brechlyn Rhydychen-Astrazeneca cyn pen 8 i 12 wythnos ar ôl y dos cyntaf i'n poblogaeth, gan ddechrau gyda thrigolion cartrefi gofal oedolion, a’r rhai hynny sydd dros 80 oed.

Mae tystiolaeth bod bwlch o dros 8 wythnos rhwng dosau o Rydychen-Astrazeneca yn drefn well ar gyfer amddiffyniad tymor hir ar gyfer y brechlyn penodol hwn. Peidiwch â chysylltu â'r bwrdd iechyd na'ch meddyg teulu i ofyn am eich ail ddos, cysylltir â chi pan fydd eich tro chi.

 

Annog gofalwyr di-dâl i gofrestru am frechlyn COVID-19

Gofynnir i ofalwyr di-dâl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro nad ydynt eisoes wedi cofrestru fel gofalwr gyda'u meddygfa i lenwi ffurflen gofrestru ar-lein os ydynt yn dymuno cael brechiad COVID-19.

Os ydych chi'n credu y gallech fod yn gymwys, yn 16 oed neu'n hŷn ac nad ydych wedi'ch cofrestru fel gofalwr di-dâl gyda'ch meddyg teulu, cwblhewch y ffurflen ar-lein hôn i gofrestru eich manylion (agor mewn dolen newydd).

Cysylltir yn uniongyrchol â'r rhai sydd eisoes wedi'u cofrestru fel gofalwr di-dâl gyda meddyg teulu i gael brechiad COVID ac nid oes angen iddynt wneud unrhyw beth pellach.

Hyd yma mae dros 1,200 o bobl wedi cofrestru. Arhoswch i gael eich gwahodd am eich brechiad a pheidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu neu fwrdd iechyd i ofyn am eich apwyntiad brechlyn. Cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro (agor mewn dolen newydd).

Cyfanswm brechiadau fesul Sir

Grŵp Blaenoriaeth 

Nifer â frechwyd gyda'r dôs gyntaf

Canran derbyn dôs gyntaf

Nifer â frechwyd gyda'r ail dôs

Canran derbyn yr ail dôs

P1.1 Preswylwyr cartrefi gofal sy'n oedolion hŷn

2,489 96.4% 204 7.9%

P1.2 - Gweithwyr cartrefi gofal

3,223 92.2% 2,149 61.5%

P2.1 - Pob un 80 oed a hŷn

22,596 99.5% 93 0.4%

P2.2 & 2.3 - Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

22,863 99.4% 17,651 77.4%

P3 - Pob un 75 oed a hŷn

18,202 93.3% 891 4.6%

P4.1 - Pob un 70 oed a hŷn

24,575 93.5% 88 0.3%

P4.2 - Unigolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol

8,322 84% 90 0.9%

P5 – Pob un 65 oed a hŷn

20,729 86.8 46 0.9%

P6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth (grwpiau mewn risg) a gofalwyr di-dâl

20,749 46.5% 764 0.2%

P7 - Pob un 60 oed a hŷn

6,216 31.9% 46 1.7%
P8 - Pob un 55 oed a hŷn 692 3.7% 49 0.2%
P9 - Pob un 50 oed a hŷn 542 3.3% 59 0.3%

Grwpiau blaenoriaeth eraill neu heb eu dyrannu

1,775 1.1% 787 0.4%

Cyfanswm:

152,976 39.5% 22,917 5.9%

 

Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa, eich fferyllfa na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd fyddwch yn cael eich brechu
wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon ebost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn.  Rydym yn deall bod pobl yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi. Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: