Mae profi am COVID-19 wedi newid. Nod y newidiadau hyn yw sicrhau y gallwn fyw ochr yn ochr â COVID-19 tra’n parhau i ddiogelu unigolion bregus.
Hunan-ynysu os oes gennym symptomau yw un o’r pethau pwysicaf y gallwn wneud i atal lledaeniad pellach yr haint a thorri cadwyni trosglwyddiad, mae hyn yn wir am heintiau anadlol eraill hefyd nid dim ond COVID-19.
Os oes gennych unrhyw un o symptoamu COVID-19, dylech hunan-ynysu ac archebu prawf llif unffordd.
Bydd eich cefnogaeth yn helpu i ddiogelu Cymru ac yn lleihau trawsglwyddiad pellach y feirws, sy’n parhau i fod yn salwch difrifol iawn, yn enwedig i bobl hŷn a’r unigolion hynny sydd â ffactorau risg.
Dyma brif symptomau COVID-19: