Neidio i'r prif gynnwy

Paratoi ar gyfer Triniaeth – Offthalmoleg

Os ydych yn aros am driniaeth offthalmoleg ar hyn o bryd, yna gall paratoi mewn modd effeithiol a dysgu sut i reoli eich symptomau wneud gwahaniaeth sylweddol i ganlyniad eich triniaeth a'ch adferiad.

Mae'r tudalennau hyn yn cynnwys gwybodaeth a chymorth ynghylch y ffordd y gallwch wneud hyn.
Bydd hyn yn ei helpu i gymryd rheolaeth a bod yn rhan o'ch gofal.

Pam y mae'n bwysig paratoi?

Bydd paratoi yn eich helpu i: 

  • ymateb i'ch triniaeth yn well, ynghyd â sicrhau adferiad cyflymach
  • gwella eich lefelau egni, lleihau blinder a gwella eich patrwm cysgu
  • cynnal eich annibyniaeth a chyflawni mwy o'ch gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd
  • gwella eich ffitrwydd cyffredinol a'ch ymdeimlad o lesiant, gan hyrwyddo ffordd iach o fyw yn yr hirdymor

 

Y ffordd i baratoi ar gyfer triniaeth

Mae paratoi ar gyfer triniaeth yn golygu meddwl am eich trefn ddyddiol, eich gweithgareddau, eich patrymau bwyta, eich arferion a'ch ffordd o fyw, a newid rhai o'r rhain er mwyn gwella eich iechyd a'ch llesiant. 

Mae'r tudalennau isod yn cynnwys gwybodaeth a chymorth ynghylch ffactorau sy'n effeithio ar eich iechyd a'ch adferiad. Bydd y rhain yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich triniaeth, gan eich cynorthwyo i adfer, cymryd rheolaeth a bod yn rhan o'ch gofal.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: