Neidio i'r prif gynnwy

Paratoi ar gyfer Triniaeth – Dermatoleg

Mae Cymdeithas Dermatolegwyr Prydain yn darparu ystod o adnoddau gan gynnwys taflenni gwybodaeth i gleifion sydd wedi'u hysgrifennu i'ch helpu i ddeall mwy am gyflwr croen penodol. Maen nhw'n rhoi gwybod i chi beth yw'r cyflwr, beth sy'n ei achosi, beth ellir ei wneud yn ei gylch a ble gallwch chi gael rhagor o wybodaeth amdano.

Lle bo modd, maent yn eich cynghori ar yr hyn y gallwch ei wneud eich hun o ddydd i ddydd i helpu gyda chyflwr eich croen. Maen nhw hefyd yn darparu gwybodaeth am driniaethau penodol ar gyfer cyflyrau croen, beth ydynt, sut mae'n gweithio, sut mae'n cael ei ddefnyddio i drin cyflyrau croen a ble gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am y driniaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am dermatoleg cliciwch yma (agor mewn dolen newydd)

Y ffordd i baratoi ar gyfer triniaeth

Mae paratoi ar gyfer triniaeth yn golygu meddwl am eich trefn ddyddiol, eich gweithgareddau, eich patrymau bwyta, eich arferion a'ch ffordd o fyw, a newid rhai o'r rhain er mwyn gwella eich iechyd a'ch llesiant. 

Mae'r tudalennau isod yn cynnwys gwybodaeth a chymorth ar ffactorau sy'n effeithio ar eich iechyd a'ch adferiad. Bydd y rhain yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich triniaeth, gan eich cynorthwyo i wella, cymryd rheolaeth a bod yn rhan o'ch gofal.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: