Neidio i'r prif gynnwy

Paratoi ar gyfer eich apwyntiad ysbyty

Dilynwch y dulliau isod i leihau'r risg o drosglwyddo haint:

Peidiwch â mynd i'r ysbyty os ydych chi neu rywun yn eich cartref yn teimlo'n sâl neu'n hunanynysu


Glanhewch eich dwylo neu defnyddiwch hylif diheintio alcohol wrth ddod i mewn ac allan o'r Adran/safle'r ysbyty

Os oes gennych unrhyw bryderon, siaradwch ag aelod o staff. Rydyn ni yma i'ch helpu chi a'n staff i gadw'n ddiogel. Os hoffech siarad â rhywun yn y Bwrdd Iechyd efallai yr hoffech chi ffonio'r rhif ar eich llythyr apwyntiad. Ar gyfer materion eraill, ffoniwch: 0300 0200 159.

Cyrraedd yr ysbyty

Mae'r Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng yn helpu cleifion cymwys i gael mynediad i'w hapwyntiadau ysbyty.

Mewn rhai achosion, gall cleifion deithio mewn ambiwlans a rennir. Efallai y gofynnir i chi wisgo mwgwd wyneb a defnyddio hylif diheintio dwylo i gadw pawb mor ddiogel â phosibl. Mae'n hanfodol cadw trafnidiaeth ar gyfer y rhai nad oes ganddynt ddewis arall. I wirio a ydych yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth neu i ganslo cludiant ewch i'r wefan neu ffoniwch 0300 123 2303.   I wirio eich cymhwysedd cliciwch yma.

Gorchuddion Wyneb yn yr Ysbyty

Nid yw bellach yn ofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus yn ein cyfleusterau gofal iechyd. Mae nifer fach o wardiau/adrannau clinigol lle mae gofyniad i wisgo mwgwd wyneb o hyd. Os felly, bydd hyn yn cael ei gyfathrebu'n dda i chi cyn i chi gyrraedd. Efallai y gofynnir i chi hefyd wisgo mwgwd os ydych chi'n mynd i mewn i ardal lle mae cleifion â COVID neu heintiau anadlol eraill yn cael gofal. Bydd hysbysiadau yn cael eu harddangos i ddweud wrthych beth i'w wisgo a phryd.
Efallai y byddwch am barhau i wisgo mwgwd/gorchudd wyneb wrth ddod i mewn i'n safle. Bydd masgiau wyneb ar gael wrth y prif fynedfeydd a'r wardiau/adran i'ch cefnogi i wneud hyn.

 

PPE - Cyfarpar Diogelu Personol

Wrth ofalu amdanoch, efallai y bydd ein staff sy'n eich trin ac yn gofalu am gleifion eraill yn gwisgo PPE a byddant yn dilyn yr holl ragofalon diogelwch angenrheidiol. Gallai hyn gynnwys mygydau, fisorau, ffedogau a menig yn ôl yr angen.

Dod â rhywun gyda chi

Rydym am gadw ein hysbytai mor ddiogel â phosibl trwy leihau nifer y bobl sy'n mynd i mewn i'r adeiladau. Fodd bynnag, gallwch ddod â gofalwr, ffrind neu berthynas gyda chi i'ch apwyntiad fel y bo'n briodol.

Ystafelloedd Aros

Er mwyn lleihau'r aros, gofynnwn i chi fod yn bresennol yn ystod eich amser apwyntiad penodedig ac nid cyn hynny.

Meddyginiaethau

Dewch â'ch meddyginiaeth gyda chi i'ch apwyntiad. Bydd yn helpu'r staff sy'n gofalu amdanoch.
 

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: