Neidio i'r prif gynnwy

Dryswch

Ar ôl cyfnod o salwch, mae’n arferol i bobl brofi dryswch. Gall y teimlad barhau pan gewch eich rhyddhau o ysbyty. Gall amrywio o ddryswch ysgafn, a allai deimlo fel bod bach yn gymysglyd, neu gall fod yn fwy difrifol, a elwir yn deliriwm.

Dryswch Ysgafn: Mae dryswch ysgafn a theimlo’n gymysglyd yn hollol normal ar ôl salwch. Gall nifer o ffactorau achosi hyn fel diffyg cwsg, colli trefn arferol, dadhydradiad, diffyg chwant bwyd a haint. Mae’n bwysig eich bod yn parhau i ymlacio, aros yn hydradol a bwyta’n dda.

Dryswch Difrifol: Mae rhai yn profi dryswch difrifol, a elwir yn deliriwm, wedi i berson fod yn sâl iawn tra yn yr ysbyty. Gall hyn fod yn brofiad brawychus. Gall rhywun sy’n profi deliriwm weld neu glywed pethau nad ydynt i’w gweld na’u clywed mewn gwirionedd, ond sy’n ymddangos yn real, a gall brei gofid mawr.

Er mai profiad dros dro yw hyn fel arfer ac yn debygol o wella gydag amser, gall gymryd peth amser i symptomau wella yn gyfangwbl. Gall y profiad o deliriwm amrywio ac mae’n gyffredin i bobl allu gweithredu fel arfer am gyfnodau o’r dydd, ac yna gwympo i gyflwr o ddryswch.

Efallai bydd rhai o’r symptomau’n parhau yn dilyn eich rhyddhau o ysbyty. Er enghraifft:

  • Dryswch
  • Newidiadau yn eich emosiynau
  • Newidiadau yn eich ymddygiad arferol
  • Anhawster cofio pethau
  • Patrymau cysgu aflonydd
  • Teimlo’n gysglyd neu, o bosib, yn gynhyrfus

Mae dryswch newydd yn aml yn arwydd bod rhywbeth arall yn mynd ymlaen yn y corf. Cysylltwch â’ch Meddyg Teulu os ydy hyn yn disgwydd gartref.

Meddwl a chyfathrebu

Ar ôl salwch, mae rhai pobl yn profi anhawsterau gyda’u meddwl. Gall hyn effeithio ar y ffordd maen nhw’n cyfathrebu ag eraill.

Efallai y byddwch yn profi un neu fwy o’r anhawsterau canlynol:

  • Deall beth mae pobl yn gweud
  • Darllen
  • Rhoi eich meddyliau a’ch teimladau mewn i eiriau
  • Cael sgwrs

Beth all helpu?

Does dim ffordd gywir neu anghywir o ymateb – mae pob un yn ymateb mewn ffyrdd gwahanol. Bydd rhai pobl ddim eisiau cofio beth wnaeth ddigwydd a ddim eisiau siarad am y peth. I eraill, bydd cofio eu cyfnod o salwch yn brofiad poenus iawn ac angen mwy o amser cyn eu bod yn barod i feddwl am y peth. Dyma rai pethau a allai helpu:

  • Gall siarad ag eraill am eich teimladau a'ch emosiynau helpu i wneud synnwyr o sut rydych chi'n teimlo.
    • Ysgrifennwch yr hyn y gallwch gofio am yr amser roeddech chi'n sâl i'ch helpu i gasglu'ch atgofion at ei gilydd.
    • Efallai yr hoffech siarad â'r rhai oedd yn gofalu amdanoch.
    • Os yw'n ddiogel ac yn bosibl gwneud hynny, gallwch drefnu i ail-ymweld â ward yr ysbyty. Gall hyn fod yn anodd iawn i rai pobl, ond gall helpu i wneud synnwyr o'r hyn ddigwyddodd.

Am fwy o wybodaeth, mae rhai canllawiau defnyddiol ar wefan ICU Steps:
https://icusteps.org/

Beth os ydw i’n teimlo nad ydw i’n gwella?

Gall gymryd amser i wella. Os ydych yn parhau i brofi anhawsterau a’u bod yn barhaus ac yn llethol, mae’n bwysig eich bod yn siarad â’ch Meddyg Teulu am y cymorth ychwanegol sydd ar gael i chi.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: