Neidio i'r prif gynnwy

Ymwelwyr tramor

Mae Ymwelydd Tramor yn golygu rhywun nad yw’n byw yn y Deyrnas Unedig fel arfer. Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn darparu gofal iechyd i bobl sy’n byw yn y Deyrnas Unedig (DU).  Os nad yw rhywun yn byw yn y DU fel arfer, nid oes ganddo hawl awtomatig i ddefnyddio’r GIG yn ddi-dâl. 

Does dim gwahaniaeth o ba wlad y mae’r unigolyn hwnnw’n dod, os oes ganddo basbort Prydeinig, neu os yw wedi byw yn y DU yn y gorffennol ac wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol a threthi yma yn y gorffennol.

Os ydych chi'n ymwelydd â'r DU, gwnewch yn siŵr bod gennych chi yswiriant meddygol ar gyfer holl driniaethau'r GIG yn ystod eich amser yma. Sicrhewch hefyd fod gennych eich Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) dilys gan y bydd angen ei sganio ar gyfer holl driniaethau’r GIG gan gynnwys adrannau damweiniau ac achosion brys a mân anafiadau.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: