Neidio i'r prif gynnwy

Tîm gwasanaethau digidol

Mae’r tîm gwasanaethau digidol yn cyflogi dros 150 aelod o staff sydd ag ystod o sgiliau priodol ar gyfer y dirwedd ddigidol sy’n newid yn barhaus. Mae’r tîm yn darparu cefnogaeth ddigidol dydd i ddydd ac ystod o swyddogaethau i staff ein Gwasanaeth Iechyd yn y tair sir. 

Mae hyn yn cynnwys:

  • Gweithrediadau digidol - y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer offer defnyddwyr, rhwydweithiau, gweinyddion a thelathrebu
  • Arloesi a thrawsnewid digidol - sicrhau bod technoleg newydd yn cael ei sefydlu gan ddefnyddio arfer gorau a'i defnyddio i'w llawn botensial
  • Llywodraethu gwybodaeth a diogelu data - i sicrhau ein bod yn trin gwybodaeth bersonol a sensitif yn gyfreithlon ac yn ddiogel er mwyn darparu'r gofal gorau posib i gleifion
  • Gwasanaethau busnes digidol - gweithio ar draws yr holl swyddogaethau i ddarparu llywodraethu, datblygu staff a gwasanaethau a chyfathrebu â'n staff
  • Gwasanaethau gwybodaeth (sy'n cynnwys deallusrwydd artiffisial) - megis codio clinigol a chynnal data at ddibenion adrodd
  • Dadansoddeg iechyd - dadansoddi gwybodaeth a data i helpu i hysbysu rheolwyr wrth iddynt wneud penderfyniadau.

Credwn mewn “Trawsnewid digidol, bob amser ym mhob ffordd”

Yn profi problemau digidol?  Cysylltu â’r ddesg wasanaeth

Os ydych yn gyflogai Hywel Dda a gennych ymholiad digidol neu angen cymorth - fel gweithio gartref a chael problemau yn cyrchu'r rhwydwaith, gallwch gysylltu â'r ddesg wasanaeth ar 01267 227300.

 

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau digidol

I gael diweddariadau digidol Hywel Dda, dilynwch ni ar y sianeli cyfryngau cymdeithasol canlynol:

Fel arall, cysylltwch â ni yn: SeniorDigitalTeam.Hdd@wales.nhs.uk

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: