Neidio i'r prif gynnwy

Therapi celf

Mae prosiect ymchwil arloesol sy'n cynnig therapi celf o bell i gleifion canser yng nghefn gwlad Cymru wedi'i ddatblygu gan ymchwilwyr yn Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Am bron i flwyddyn, mae'r cynllun wedi bod yn cynnig cyfle i gleifion canser gymryd rhan mewn sesiynau celf greadigol heb orfod gadael eu cartrefi. Gellir gweld ffilm fer yn cynnwys cleifion a staff sy'n defnyddio'r gwasanaeth anghysbell isod.

Rydym yn helpu i gefnogi chi – y claf a'r gofalwyr – trwy salwch, trawma emosiynol a seicolegol, trallod a diagnosis sy’n newid bywyd. Mae'r wasanaeth ar gael i chi ar ôl cael eich hatgyfeirio i’r timau Oncoleg a Gofal Lliniarol. Gallwn ddarparu'r wasanaeth yma i chi yn yr ysbyty, cymorth dros y ffôn, ymweliadau â’r cartref, a theleiechyd trwy gyfrwng Skype for Business a fideogynadledda, a rhoddir gwybod am hyn mewn llythyrau apwyntiad neu trwy drefnu dros y ffôn.

Beth rydym ni’n ei wneud

Rydym yn helpu i gefnogi chi trwy salwch, trawma emosiynol a seicolegol, trallod a diagnosis sy’n newid bywyd. Mae'r wasanaeth yma ar eich cyfer ar ôl cael eich hatgyfeirio i’r Tîm Iechyd Meddwl Oedolion.

 

Dolenni

Oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener

9.00am tan 5.00pm

Geraint House, Ysbyty Bronglais, SY23 1ER, Ceredigion

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: