Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Addysg i Gleifion (RAG Cymru)

Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni a gweithdai hunanreoli rhad ac am ddim ym maes iechyd a lles, a hynny ar gyfer os ydych yn byw â chyflyrau iechyd, neu'r rheiny sy'n gofalu am rywun sydd â chyflwr iechyd. 

Mae gan bob unigolyn sydd ynghlwm wrth ein rhaglenni, boed yn aelodau o staff neu'n diwtoriaid gwirfoddol, brofiad personol naill ai o fyw â chyflwr iechyd, neu o ofalu am rywun sydd â chyflwr iechyd.

Ydych chi'n edrych ar ôl rhywun? 

Os ydych chi'n gofalu yn rheolaidd am berthynas, ffrind neu gymydog na allai ymdopi heb i chi helpu ac nad ydych chi'n cael eich talu amdano yna rydych chi'n Ofalwr Beth bynnag fo eich rôl ofalu, mae’n bwysig eich bod yn edrych ar ôl eich iechyd eich hunain hefyd. Mae’r sesiwn ‘Cyflwyniad i edrych ar ôl fy hunain’ yn berffaith ar eich cyfer.

Byddwch yn archwilio: edrych ar ôl eich iechyd,rheoli a chydbwyso eich rôl ofalu a technegau ymlacio. Mae'r sesiwn rithwir hon yn gyfle i edrych ar eich rôl ofalu a dysgu sut y gall gwneud rhai newidiadau bach wneud gwahaniaeth i'ch bywyd.

Sesiwn GIG am ddim yw hon ac mae'n para 3 awr yn unig, ar gael i Ofalwyr dros 18 oed. Y cyrsiau nesaf sydd ar gael yw:

Dydd Mercher 7fed Hydref 10am tan 1pm Dydd Iau 15 Hydref 10am tan 1pm. Am ragor o wybodaeth neu i archebu'ch lle, cysylltwch ag EPP cyn dydd Mercher 30 Medi ar 01554 899035 Darperir cyfarwyddiadau ar sut i gael mynediad i'r cwrs ar ôl cofrestru.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: