Neidio i'r prif gynnwy

Podiatreg (iechyd traed)

Rydym yn ymwybodol nad yw dogfennau sydd wedi'u cynnwys yn y maes hwn yn cydymffurfio â'r Safonau Hygyrchedd Digidol. Os hoffech gael mynediad at fformat arall, ebostiwch DigitalCommunications.Team@wales.nhs.uk.  Gallwch ddarllen ein datganiad hygyrchedd digidol yma. 

Mae’r gwasanaeth Podiatreg yn darparu gwasanaeth iechyd y droed cynhwysfawr ar gyfer cyflyrau sy'n effeithio ar ran isaf y goes. Rydym yn asesu, trin a chynghori cleifion ag anhwylderau iechyd y droed er mwyn cynnal a chael y mwyaf o'u hansawdd bywyd ac felly’n annog bywyd actif iach gyda thraed sy’n gweithio’n normal a chyffyrddus.

Mae’r gwasanaeth ar gael, waeth beth yw eich oed, i bobl ag anghenion podiatrig/meddygol. Serch hynny mae’r driniaeth yn dibynnu ar eich cyflwr penodol.

 

Beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl bod angen i chi weld podiatrydd

Gallwch chi hunan-gyfeirio i ymweld â chlinig trwy lenwi ffurflen atgyfeirio a'i dychwelyd i'r cyfeiriad a nodir ar frig y cais.

Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt, a'r ffurflen atgyfeirio berthnasol o'r gwymplen isod. Gall meddygon teulu neu weithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill hefyd atgyfeirio ar eich rhan.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: