Neidio i'r prif gynnwy

Orthopteg (gofal llygaid)

Mae orthoptydd yn arbenigwr ar asesu golwg plant ac oedolion, y modd y mae’r llygaid yn cydweithio â’i gilydd fel pâr, a symudiadau’r llygaid (symudoldeb ocwlar). Rydym fel mater o drefn yn helpu ac yn trin plant sydd â golwg pŵl (amblyopia), llygaid ag aliniad abnormal (llygaid croes/cam/tro) a phroblemau gweld yn ystod plentyndod. Mae orthoptyddion yn arbenigwyr ar asesu a diagnosio llygaid croes mewn oedolion a phroblemau’n ymwneud â symudoldeb ocwlar, sy’n gysylltiedig yn aml â chyflyrau meddygol neu niwrolegol cyffredinol. Rydym yn gweithio’n rhan o’r tîm gofal llygaid, ac yn gweithio’n benodol gyda’r optometrydd pediatrig a’r offthalmolegydd pediatrig ymgynghorol (y meddyg llygaid plant). 

Mae orthoptyddion yn weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, sy’n cael eu cofrestru a’u rheoleiddio gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.

Mae’r orthoptyddion yn cynnig ystod o ymyriadau therapiwtig a chyngor wedi’i dargedu ar gyfer cleifion ag anhwylderau sy’n ymwneud â’u golwg a’u golwg binocwlar. Mae rhai o’r triniaethau hynny’n cynnwys sbectol, patshys llygaid neu ddiferion i drin golwg pŵl mewn plant; a phrismau, patshys neu ymarferion i drin cleifion sydd â golwg dwbl neu sydd ag anhwylderau’n ymwneud â’u golwg binocwlar.

Gall eich meddyg teulu, ymwelydd iechyd neu optometrydd lleol eich cyfeirio at y gwasanaeth orthopteg. Mae’n bosibl y byddwch yn cael eich cyfeirio at orthoptydd gan feddygon ymgynghorol mewn ysbyty, sy’n arbenigwyr mewn meysydd eraill.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: