Neidio i'r prif gynnwy

Prolaps organau'r pelfis

Mae organau eich pelfis yn cynnwys y bledren, yr wterws (y groth), y wain a'r coluddyn. Mae organau eich pelfis fel arfer yn cael eu cadw yn eu lle ac yn cael eu cynnal gan gyhyrau llawr y pelfis ac adeiledd y meinweoedd amgylchynol (y cyhyrau, y ligamentau a meinweoedd cyswllt).

Weithiau nid yw eich cyhyrau nac adeiledd y meinweoedd yn gweithio fel y dylent, ac efallai na fydd un neu ragor o'r organau yn y safle delfrydol mwyach a gallant ddisgyn. Yna gall organau eich pelfis ymchwyddo i lwybr y wain neu hyd yn oed y tu allan i'r corff.

  • Gall eich pledren a/neu'r wrethra ymwthio i'r wain gan greu chwydd.
  • Gall eich rectwm a/neu eich coluddyn bach ymwthio i'r fagina gan greu chwydd.
  • Gall eich wterws ddisgyn i'r wain.

Weithiau gall y prolaps gael ei achosi wrth i fodfeddi olaf eich coluddyn ddisgyn ac ymwthio trwy eich pen-ôl (anws). Gall hyn deimlo fel bod lwmpyn yn ymwthio o'r pen�ôl (prolaps y rectwm).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: