Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef o gyflwr iechyd meddwl ar ryw adeg yn ein bywyd, ac amcangyfrifir bod gan tua 2% o'r boblogaeth gyffredinol anabledd dysgu. Mae pawb yn wahanol, ac anaml y mae problemau iechyd meddwl ac anableddau dysgu yn cael eu trin yn yr un ffordd ar gyfer unrhyw ddau berson. Ein gwaith ni yw helpu pobl i wella ac i reoli eu symptomau fel eu bod yn gallu bwrw ymlaen â'u bywyd.

Rydym yn darparu nifer o wasanaethau gwahanol ar gyfer pobl ag anghenion gwahanol. Yn yr ardal hon o'r wefan, cewch wybodaeth am lawer o'r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu, ynghyd â manylion am y sut a phryd i'w defnyddio. 

Bydd pob un o'r gwasanaethau yn y categorïau isod yn darparu gwybodaeth ynghylch pwy y darperir y gwasanaeth ar eu cyfer.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: