Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd galwedigaethol

Rydym yn dîm amlddisgyblaethol o staff meddygol, nyrsio, ffisiotherapi a gweinyddol, sy'n darparu gwasanaeth cynghori meddygol arbenigol a chymorth annibynnol, cyfrinachol a phroffesiynol ledled y Bwrdd Iechyd. Rydym yn rhoi cyngor ac arweiniad i reolwyr a staff, ac yn hygyrch i unrhyw un a gyflogir gan neu yn gweithio gyda ni, gan gynnwys gwirfoddolwyr.

Rydym yn ymwneud â:

  • hyrwyddo a chynnal y lefel uchaf o les corfforol a meddyliol ymhlith y gweithwyr
  • sicrhau bod y swydd yn iawn i'r unigolyn, a'r unigolyn yn iawn i'r swydd
  • lleihau afiechyd sy'n gysylltiedig ag amodau gwaith

Nid ydym yn darparu triniaeth, ac, felly, ni ddylai ddyblygu nac ymyrryd â rôl eich Meddyg Teulu, sy'n gyfrifol am ddarparu eich gofal iechyd sylfaenol.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: