Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth y GIG

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion yn wasanaeth ar gyfer pobl gyda phroblemau iechyd meddwl cyffredin, ysgafn i gymedrol fel gorbryder, iselder a straen. Darperir y gwasanaeth yn y gymuned a rhaid i chi gael eich atgyfeirio iddo gan feddyg teulu neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill.

Nid yw'r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol yn wasanaeth argyfwng ac nid yw wedi ei gynllunio ar gyfer pobl sydd angen cymorth brys. Os oes angen cymorth brys nad yw'n argyfwng, dylech gysylltu â'ch meddyg teulu yn y lle cyntaf a fydd yn gallu eich cyfeirio at y gwasanaethau iechyd meddwl mwyaf priodol. Os ydy  tu allan i oriau meddygon teulu, dylech chyflwyno yn y gwasanaeth tu allan i oriau meddygon teulu at Damweiniau ac Achosion Brys. Os byddwch angen cymorth brys ffoniwch 999.

Rydym yn cynnig gwasanaethau amrywiol gan gynnwys cyngor ar asesiadau iechyd meddwl, cymorth ac atgyfeirio at wasanaethau perthnasol eraill, cyrsiau rheoli straen a detholiad o ymyriadau seicolegol.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: