Neidio i'r prif gynnwy

Buddsoddwyr mewn Gofalwyr

Beth yw Buddsoddwyr mewn Gofalwyr?
Mae'r cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr (IiC) yn gynllun sicrwydd ansawdd sydd â safonau â thema, prosesau archwilio ac ardystio a gwobrau, sy'n cydnabod arfer gorau. Fe'i cynlluniwyd i'w ddefnyddio ar draws ystod generig o leoliadau ac mae angen cywain ffolder o dystiolaeth.

Fe'i cynlluniwyd i'w ddefnyddio ar draws ystod generig o leoliadau ac mae angen cywain ffolder o dystiolaeth. Mae'r cynllun yn cynnwys Gofalwyr o bob oed a sefyllfa, Gofalwyr Ifanc o dan 18 oed, Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc rhwng 18 a 25 oed, Rhieni Gofal sy'n gofalu am blentyn ag anabledd neu broblem iechyd meddwl, brodyr a chwiorydd sy’n Ofalwyr, pobl hŷn sy'n gofalu am ei gilydd ac ati.

Mae'r cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yn offeryn sydd wedi'i gynllunio i helpu sefydliadau iechyd, gofal cymdeithasol, y 3ydd sector a sefydliadau eraill i ganolbwyntio ar eu hymwybyddiaeth o Ofalwyr a'r help a'r gefnogaeth a roddant i Ofalwyr, a’u gwella.

Mae gan y cynllun chwe safon â thema sy'n symud trwy’r lefelau o Efydd, Arian ac Aur. 

Lefel efydd
Mae'r sefydliad wedi arddangos ymwybyddiaeth o faterion y gofalwyr. ac mae'n llwyddo i enli, efnogi, a chyfeirio vofalwyr at gymorth.

Lefel arian
Mae'r sefydliad wedi arddangos ymrwymiad gweithredol at y cynllun buddsoddwyr men gofalwyr ac wedi datblygu ymagwedd ragweithiol at gefnogi gofalwyr, ac maen'n llwyddo i arddangos canlyniadau, lle bo hynny'n brioddol.

Lefel aur
Mae'r sefydliad weds arddandog uwch o faterion y gofalwyr, ac mae wedi llwyddo i fabwysiadu newid diwylliannol, datblygu ymagwedd ochrol at gymorth gofalwyr, ynghyd ag arddangos canlyniadau.

Disgwylir i bob lleoliad ddatblygu Effaith Gofalwyr sy'n diffinio eu bwriad yn glir o ran yr hyn a wnânt i gefnogi Gofalwyr. Dylai hyn hefyd gynnwys amlinelliad o ddemograffeg y lleoliad. Mae templed ac enghreifftiau wedi'u darparu i gynorthwyo'r lleoliad.

Dylai hyn gael ei lofnodi gan Reolwr y lleoliad a'i adolygu bob blwyddyn i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas at y diben.

Mae angen i leoliadau gasglu tystiolaeth yn erbyn pob un o'r safonau â thema mewn portffolio a fydd wedyn yn cael ei asesu. Os yw'n llwyddiannus, dyfernir y dystysgrif berthnasol i'r lleoliad i'w harddangos.

Dim ond yn rhanbarth Hywel Dda Gorllewin Cymru y mae'r cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr ar gael. Am fanylion pellach am y cynllun a sut i gymryd rhan, cysylltwch â Pennie Muir pennie.muir@wales.nhs.uk

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: