Neidio i'r prif gynnwy

Gwrth-dwyll

Mae Llinell Adrodd am Dwyll a Llygredd (LlADLl) yn y GIG yn rhif rhad ac am ddim, ac mae’n ffordd hawdd o adrodd drwgdybiaeth wirioneddol o dwyll yn y GIG. Mae’n caniatáu i aelodau staff y GIG ac aelodau’r cyhoedd sydd am roi gwybod am eu pryderon o dwyll posibl yn y GIG, i aelod cymwys o dîm Gwrth-dwyll y GIG. Caiff y wybodaeth ei phasio ymlaen i’ch arbenigwyr gwrth-dwyll lleol (AGDLl), a'i drin yn gwbl gyfrinachol. Gall galwyr fod yn ddienw os maen nhw'n dymuno.

Cofiwch, os byddwch yn gwneud adroddiad dienw bydd angen i chi roi gwybodaeth ‘dda’ a allai gynnwys: dyddiadau, amseroedd, gweithgarwch credwch ei fod yn golygu colled neu risg o golled i'r GIG ac ati.

Rhoddir gwybod i'r LlADLl am bob galwad sy'n adrodd yn uniongyrchol i'r Cyfarwyddwr Cyllid. Mae llawer o'r galwadau i'r AGDLl yn dod yn ymchwiliadau twyll a gadarnhawyd. Mae'r llinell wedi darparu llawer o achosion yr ymchwiliwyd iddynt yn llwyddiannus.

STOPIWCH twyll y GIG trwy ymweld â www.reportnhsfraud.nhs.uk neu wrth ffonio 0800 028 4060

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: