Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau'r Gymraeg

Amdanom ni

Rydym fel Tîm Gwasanaethau’r Gymraeg yn hyrwyddo’r defnydd y Gymraeg ac yn cynorthwyo’r Bwrdd Iechyd i weithredu’n ddwyieithog. Mae ein gwaith yn cynnwys cefnogi adrannau i ddatblygu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, darparu gwasanaeth cyfieithu, cydlynu cyrsiau Cymraeg i staff ac anelu at sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg.

Manylion cyswllt:

Ebost: cyfieithu.cymraeg.hdd@wales.nhs.uk

Mae eich adborth yn bwysig i ni ac rydym bob amser eisiau clywed gennych ynglŷn â'ch profiadau.

Os oes gennych unrhyw gwynion yn ymwneud â chydymffurfio â Safonau’r Gymraeg yna gallwch e-bostio: hdhb.patientsupportservices@wales.nhs.uk

Ewch i’r dudalen we ganlynol i weld y weithdrefn gwynion lawn: Gwasanaethau cymorth i gleifion (adborth a chwynion)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: