Mae Therapyddion Galwedigaethol yn unigolion cymwys unigryw sy'n rhoi ystyriaeth i anghenion biolegol, seicolegol a chymdeithasol unigolyn, a hynny yng nghyd-destun ei amgylchedd, er mwyn helpu pobl i fod mor annibynnol ag y gallant er gwaethaf eu salwch neu eu hanabledd.
Mae Therapyddion Galwedigaethol yn asesu, yn adfer ac yn gweithio gyda phobl gan ddefnyddio gweithgarwch a galwedigaeth fwriadol i hwyluso'r broses o wella a goresgyn y rhwystrau sy'n eu hatal rhag gwneud y gweithgareddau (neu'r galwedigaethau) sy'n bwysig iddynt hwy. Mae'r cymorth hwn yn cynyddu annibyniaeth a boddhad pobl ymhob agwedd ar fywyd.