Mae amddiffyn eich babi rhag mwg tybaco yn un o’r pethau gorau y gallwch ei wneud i roi dechrau iach i’ch plentyn mewn bywyd. Gall fod yn anodd rhoi’r gorau i ysmygu, ond nid yw byth yn rhy hwyr i roi’r gorau iddi.
Mae pob sigarét yr ydych yn ei hysmygu yn cynnwys mwy na 4,000 o gemegion, felly mae ysmygu pan fyddwch yn feichiog yn gallu niweidio eich babi yn y groth.
Gall sigaréts hefyd gyfyngu ar y cyflenwad ocsigen hanfodol i’ch babi. Mae hyn oherwydd bod carbon monocsid yn hytrach nag ocsigen yn cael ei gyflenwi i’r babi trwy’r brych.
Bydd rhoi’r gorau i ysmygu yn awr hefyd yn helpu eich babi yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae plant sydd â rhieni sy’n ysmygu yn fwy tebygol o ddioddef asthma ac afiechydon difrifol eraill y gall fod angen triniaeth ysbyty arnynt.