Neidio i'r prif gynnwy

Pam fyddech chi'n cyrchu gwasanaeth Macmillan?

Mae gennym filiynau o gefnogwyr, gweithwyr proffesiynol, gwirfoddolwyr ac ymgyrchwyr. Gyda'n gilydd, rydym yn sicrhau eich bod yn cael eich trin fel unigolyn – nid claf yn unig – ac yn cael y cymorth y mae arnoch ei angen i fyw bywyd mor llawn â phosibl.

Rydym yn mynd i drafferth i'ch deall chi, yr unigolyn, er mwyn darparu'r cymorth, yr offer a'r ysbrydoliaeth y mae arnoch eu hangen i ddelio â'r profiad yn y modd gorau. Rydym yn gwneud hyn gan ein bod yn deall bod profiad pob unigolyn o ganser yn unigryw.

Byddwn yno i'ch cefnogi o gyfnod eich diagnosis, eich triniaeth ac wedi hynny, er mwyn cynnig cymorth emosiynol, corfforol ac ariannol i chi.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: