Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Canser Macmillan - diweddariad COVID-19

Mae'n rhaid i ni weithio'n wahanol yn ystod pandemig COVID-19 ac rydym wedi symud ein holl gefnogaeth i'r ffôn. Rydym yn dal i allu sgwrsio â chi am eich cwestiynau cysylltiedig â chanser ynghyd â help gydag unrhyw bryderon neu gyngor y gallai fod eu hangen arnoch i gadw'ch hun yn ddiogel yn ystod yr amseroedd heriol hyn.

Yn ogystal â'r glust wrando fawr ei hangen, rydym yn darparu gwybodaeth ac yn cyfeirio at wasanaethau eraill fel Cyngor Budd-daliadau Lles Macmillan neu gallwn eich cysylltu â chefnogaeth yn y gymuned leol. Mae hyn yn cynnwys help gan hybiau cymunedol eich awdurdod lleol sydd wedi bod yn brysur yn cysylltu â thimau o wirfoddolwyr a sefydliadau i helpu i ddarparu hanfodion fel bwydydd a phresgripsiynau a helpu gyda gwasanaethau fel cerdded cŵn neu ddim ond i sgwrsio.

Mae COVID-19 yn cael effaith enfawr ar bobl sy'n byw gyda chanser ac yn ystod yr amser hwn mae'n bwysig gofalu am eich llesiant emosiynol a meddyliol yn ogystal â'ch iechyd corfforol. Mae gennym fanylion am wasanaethau cymorth newydd, yn ogystal â rhannu awgrymiadau a dolenni ar-lein i helpu i hyrwyddo hunanofal a llesiant emosiynol.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: