Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth anableddau dysgu

Mae ein Cyfarwyddiaeth Anableddau Dysgu yn darparu gofal iechyd arbenigol i oedolion sydd wedi cael diagnosis o anabledd dysgu.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal diogel ac effeithiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sy’n canolbwyntio ar anghenion unigol pob unigolyn, ac sy’n darparu canlyniadau clir.

Mae’r gwasanaethau a ddarparwn yn cynnwys:

  • Asesiadau a chymorth arbenigol i bobl sydd ag anghenion cymhleth a heriol
  • Galluogi pobl i gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau i’w cadw’n iach
  • Amrywiaeth o fentrau i leihau a goresgyn anghydraddoldebau o ran iechyd y gall pobl sy’n byw ag anableddau dysgu eu profi

Mae’r gofal a’r cymorth a ddarparwn yn rhoi pwyslais yn bennaf ar rymuso’r holl ddefnyddwyr gwasanaethau, ynghyd â’u teuluoedd a’u gofalwyr. Nod hyn yw sicrhau bod ganddynt y sgiliau, yr wybodaeth a’r hyder angenrheidiol i hunanreoli eu cyflwr mewn modd effeithiol, a hynny mewn partneriaeth â’u gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

 

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: