Neidio i'r prif gynnwy

Gofal diwedd oes

Gofal yw gofal diwedd oes sy’n helpu'r rheiny â salwch datblygedig, cynyddol, anwelladwy i fyw bywyd mor dda â phosib hyd nes y byddant yn marw.  Mae’n caniatáu i anghenion gofal cefnogol a lliniarol cleifion a’u teuluoedd gael eu hadnabod a’u bodloni drwy gydol cyfnod olaf bywyd yn ogystal ag o ran profedigaeth.

Mae’n cynnwys rheoli poen a symptomau eraill ac yn darparu cymorth seicolegol, cymdeithasol, ysbrydol ac ymarferol. Mae’r diffiniad o gyfnod dechrau gofal diwedd oes yn amrywio yn ôl y person yn ogystal â safbwyntiau proffesiynol. 

Cliciwch yma am wybodaeth am ein gwasanaeth caplaniaeth (agor mewn dolen newydd)

Gweler isod manylion cyswllt ar gyfer cyngor ac atgyfeiriad gofal lliniarol arbenigol cymunedol ac ysbyty sydd ar gael 9.00am tan 5.00pm, dydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc).

 

Sir Gaerfyrddin

Tŷ Bryngwyn, Llanelli
Rhif Ffôn: 01554 783561

Tŷ Cymorth, Caerfyrddin
Rhif Ffôn: 01267 227655

Ceredigion

Tŷ Geraint, SPCT a Hosbis Hafren yn y Cartref
Rhif Ffôn: 01970 635790

Sir Benfro

Rhif Ffôn: 01437 774112

 

Ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc gallwch gysylltu â'r nyrs arbenigol rhwng 9.00am a 5.00pm ar y rhif - 07971382970. Peidiwch â thecstio'r rhif hwn, na'i ddefnyddio yn ystod dyddiau arferol yr wythnos.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: