Neidio i'r prif gynnwy

Firysau a gludir yn y gwaed

Gall unrhyw un sydd wedi cael diagnosis o firws a gludir gan y gwaed ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, gan gynnwys partneriaid, teulu a gofalwyr y sawl sydd wedi'u heintio. Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan ymarferwyr meddygol, nyrsys a thimau camddefnyddio sylweddau, neu gall cleifion eu hatgyfeirio eu hunain. 

Yr hyn yr ydym yn ei wneud:

  • profi ar gyfer hepatitis B, hepatitis C ac HIV
  • gofal clinigol ar gyfer unrhyw un sydd wedi cael diagnosis o firws a gludir yn y gwaed
  • cymorth emosiynol, seicolegol a chymdeithasol ar gyfer y rhai sydd wedi'u heintio
  • trin a monitro cleifion sydd wedi cael diagnosis o hepatitis B ac C
  • cysylltu â'r ganolfan ranbarthol ar gyfer cleifion sydd wedi cael diagnosis o HIV
  • atgyfeirio at wasanaethau eraill, e.e. seiciatreg, ffisiotherapi, y gwasanaethau cymdeithasol, yn ôl yr angen
  • cysylltu â'r gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, y gwasanaethau cymdeithasol, ac ati, er mwyn darparu'r gofal optimwm
  • addysg ar gyfer cleifion, gofalwyr ac eraill arwyddocaol
  • addysg ar gyfer staff gofal iechyd ac asiantaethau allanol

Manylion Cyswllt

Nicola Reeve - Nyrs Glinigol Arbenigol ym Maes Firysau a Gludir gan y Gwaed (Sir Gaerfyrddin)
Rhif Ffôn: 01554 899016
Email: nicola.reeve@wales.nhs.uk

Donna Blinston - Nyrs Glinigol Arbenigol ym Maes Firysau a Gludir gan y Gwaed/Nyrs Gyswllt Alcohol (Ceredigion)
Rhif Ffôn: 01970 635614
Email: donna.blinston@wales.nhs.uk 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: