Neidio i'r prif gynnwy

Ein gwerthoedd

Mae ein gwerthoedd sefydliadol nid yn unig yn llywio hunaniaeth ein sefydliad, ond maent hefyd yn olau arweiniol i'n gweithwyr.Mae ein gwerthoedd craidd yn cefnogi gweledigaeth ein sefydliad ac yn llywio ei ddiwylliant.

Rydym am i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fod yn lle pleserus a boddhaus i weithio. Rydym yn gwybod bod teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi yn y gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar staff a chleifion.

Disgwylir y gall pawb ddangos ymrwymiad i'r gwerthoedd hyn o'r pwynt y byddant yn gwneud cais hyd at gyflawni eu rolau o ddydd i ddydd. Mae ymrwymiad i'n gwerthoedd yn ein cefnogi o ran ein gofal i gleifion a'n datblygiad parhaus fel darparwr gofal iechyd.

 

Cyflwyniad gan Steve Moore, Prif Weithredwr:

Ein Gwerthoedd – Myfyrdodau'r Prif Swyddog Gweithredol

"Y gwerthoedd yr ydym yn dewis byw yn unol â nhw, a hynny naill ai fel unigolion neu sefydliadau, yw sylfeini'r diwylliant a'r ymddygiad sy'n llywio ein bywydau personol a phroffesiynol. Yn wahanol i lawer o sefydliadau, mae'r GIG bob amser wedi meddu ar ymdeimlad cryf o'r hyn y mae'n rhoi gwerth arno – cafodd y gwerthoedd hyn eu gwreiddio ynddo wrth ei sefydlu ryw 72 mlynedd yn ôl. Maent yn rhan fawr o'r hyn sy'n ysgogi'r rhai hynny ohonom sydd wedi ymuno â'r sefydliad anhygoel hwn, ac maent yn ei wneud yn gymaint o fraint cael bod yn rhan ohono.

Mae gan bob sefydliad ei ffordd ei hun o fynegi'r gwerthoedd hyn, sy'n berthnasol i hanes lleol a gobeithion a dyheadau'r staff sy'n ffurfio'r sefydliad. Yn wir, bu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio gyda dros 2,000 o staff yn 2015-2016 i fabwysiadu ein fersiwn ein hunain, sy'n rhoi llais i'r ffordd yr ydym yn teimlo ar y cyd am y math o sefydliad yr ydym am fod yn rhan ohono yn nheulu ehangach y GIG. Dyma'r gwerthoedd hynny:

  • Rhoi pobl wrth galon popeth a wnawn - Rydym yn cymryd cyfrifoldeb am ofal effeithiol o'n holl gleifion tra'n cefnogi ein cydweithwyr i sicrhau ein bod yn rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn.
  • Anelu at ddarparu a datblygu gwasanaethau rhagorol - Byddwn yn ymdrechu i wella a datblygu'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig fel darparwr gofal iechyd yn barhaus.
  • Gweithio gyda'n gilydd i fod y gorau y gallwn fod - Rydym yn cymryd cyfrifoldeb i weithio'n unigol neu fel tîm i ddarparu gwasanaethau dibynadwy i ddarparu'r gofal iechyd gorau y gallwn i'n cleifion.

Pobl yn ymdrechu gyda'i gilydd – yn fy marn i, mae hyn yn mynd at galon yr hyn yw'r GIG. Pobl yw ein staff, ein cleifion, ein gofalwyr, eu teuluoedd ehangach a'r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu. Mae ymdrechu am ragoriaeth yn golygu sicrhau bod yna amser, lle i feddwl, dysgu a datblygu, ac mae cydweithio yn golygu meithrin partneriaethau dilys, cyfartal a hirhoedlog.

Fodd bynnag, mae angen i'r gwerthoedd hyn fod yn llawer mwy na fframwaith ymddygiad i ni'n hunain ac i eraill. Wrth gwrs, dylem feddwl sut y gall pob un ohonom ymgorffori'r gwerthoedd hyn yn ein gwaith o ddydd i ddydd, annog a chefnogi eraill i wneud yr un peth, a pheidio â sefyll o'r neilltu pan welwn eraill yn methu eu rhoi ar waith. Ond mae gennym ninnau yn y Bwrdd hefyd gyfrifoldeb o ran meddwl sut y gallwn ystyried y gwerthoedd hyn yn “egwyddorion cynllunio” ar gyfer y sefydliad – gan ddod â'r gwerthoedd yn fyw trwy adeiladu'r strwythurau, y prosesau a'r polisïau a fydd yn galluogi'r sefydliad i fod yn lle, ohono'i hun, a fydd yn ymgorffori'r gwerthoedd hyn.

Rwy'n credu mai dyletswydd bwysicaf y Bwrdd yw gwneud y sefydliad yn lle gwych i weithio ynddo ar gyfer ein holl staff, ac yn fan lle mae'r rhai yr ydym yn eu gwasanaethu yn teimlo'n bartneriaid llawn yn yr hyn yr ydym yn ei wneud. Credaf mai adeiladu'r sefydliad o amgylch ein gwerthoedd yw'r ffordd orau o gyflawni hyn. Mae gennym ffordd mor bell i fynd, a ninnau'n wynebu pwysau cyson blaenoriaethau heddiw, ond gobeithio y gallwch ymuno â mi ar y genhadaeth hon fel bod y gwerthoedd hyn wir yn newid hanfod gwead Hywel Dda. Mae ein gwerthoedd yn cynrychioli'r ffordd y byddwn yn gwneud pethau a'r ymddygiadau disgwyliedig wrth weithio i'r Bwrdd Iechyd hwn. Roeddem hefyd am gael gwerthoedd sefydliadol y gallwn wirioneddol eu byw a'u hanadlu.

Mae'r llinyn DNA yn y galon yn dal y naw gwerth personol y dylai pob un ohonom yn Hywel Dda eu hamlygu o ddydd i ddydd.

  • Urddas, parch a thegwch
  • Uniondeb, bod yn agored a gonestrwydd
  • Gofal, caredigrwydd a thosturi

Mae yna dri datganiad o ran dyluniad y galon, yr wyf am i ni fel sefydliad eu hymgorffori, yn ogystal â'r gwerthoedd personol. Mae'r rhain yn siarad drostynt eu hunain. 

  • Rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn
  • Ymdrechu i ddarparu a datblygu gwasanaethau rhagorol
  • Cydweithio hyd eithaf ein gallu i roi o’n gorau

O ran yr ymddygiadau yr ydym am eu gweld, hyderaf y byddwch yn ymuno â mi i'w coleddu, ac yn ymdrechu i'w rhoi ar waith ledled y sefydliad.”

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: